Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 7 Mawrth 2017.
Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghymru eleni yw 'creu dyfodol cyfartal' ac rydym yn falch o gefnogi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wrth gyflwyno pedwar digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ledled Cymru. Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau a chyfleoedd merched a menywod ar draws Cymru, gan greu dyfodol cyfartal iddynt. Mae'n rhaid i ni gydnabod, fodd bynnag, er gwaethaf yr holl gynnydd sydd wedi ei wneud, mae merched a menywod yn dal i wynebu rhwystrau ac anghydraddoldeb. Mae creu dyfodol cyfartal yn cyd-daro’n dda ag amcanion ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru. O fynd i'r afael â thlodi a darparu cronfa fwy amrywiol o bobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus i leihau'r bwlch cyflog a mynd i'r afael â thrais a cham-drin, mae ein hamcanion cydraddoldeb yn sicrhau bod camau gweithredu yn canolbwyntio ar y meysydd sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a grwpiau eraill a ddiogelir.
Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym fod unig rieni yn fwy tebygol o fod yn fenywod. Ac fel y rheini sydd â gofal plant a chyfrifoldebau gofal eraill, gall menywod o fewn y grwpiau hyn eu cael eu hunain mewn tlodi a gall fod yn anodd iawn iddynt gael gafael ar hyfforddiant neu waith. Rydym yn gwybod mai cyflogaeth sy’n cynnig y llwybr mwyaf cynaliadwy allan o dlodi, a dyna pam mae mynd i'r afael â'r rhwystrau i gyflogaeth yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae rhaglenni fel Esgyn a Chymunedau am Waith yn gwneud gwahaniaeth pwysig drwy ddarparu cefnogaeth bwrpasol wedi'i thargedu at y rheini sydd bellaf i ffwrdd o'r gweithle. Rwy'n falch o ddweud, hyd at ddiwedd mis Ionawr, mai menywod oedd 55 y cant o’r rheini a gymerodd ran mewn rhaglenni Cymunedau am Waith. Gall gofal plant fforddiadwy, sydd ar gael yn hawdd ac yn hygyrch, fod yn rhwystr mawr i ferched rhag cael gafael ar hyfforddiant a chyflogaeth. Dyma pam rydym wedi ymrwymo i gynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed am gyfnod o 48 wythnos i rieni sy'n gweithio. Yn ogystal â chefnogi menywod i ddod o hyd i gyflogaeth, rhaid i ni hefyd adeiladu ar hyder a sgiliau menywod fel y gallant wneud cynnydd pellach mewn ystod eang o sectorau, a chyflawni swyddi dylanwadol.
Yn ddiweddar, derbyniasom yr holl argymhellion yn yr adroddiad ‘Menywod talentog ar gyfer Cymru Lwyddiannus'. Ei nod yw mynd i'r afael â'r prinder difrifol o fenywod mewn swyddi STEM yng Nghymru, ac mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu hyn.
Mae Llywodraeth Cymru fel cyflogwr wedi addunedu i ymrwymo i’r ymgyrch 50/50 erbyn 2020, ochr yn ochr â sefydliadau a chyflogwyr eraill ym mhob sector yng Nghymru. Mae ymuno â'r ymgyrch yn dangos ymrwymiad cyhoeddus cyflogwyr i weithio tuag at gynrychiolaeth gyfartal y rhywiau mewn swyddi sy’n gwneud penderfyniadau a swyddi dylanwadol yma yng Nghymru.
Rydym ni hefyd yn gweithio'n galed i annog a chefnogi menywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir i ymgeisio am benodiadau cyhoeddus. Mae amrywiaeth o ran cynrychiolaeth yn dod ag amrywiaeth o safbwyntiau— syniadau ffres, safbwyntiau newydd a gwell dealltwriaeth o'n cymunedau. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cyflog rhwng y rhywiau, ac mae gennym ddyletswyddau cadarn ar waith ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau nad ydym ond yn adrodd ar y bwlch cyflog yn unig, ond ein bod hefyd yn gweithredu ar yr achosion sylfaenol, gan gynnwys y gwahanol ddosbarthiad o ddynion a menywod o ran graddau, galwedigaethau, patrymau gwaith a mathau o gontract. Nid yw'n ddigon da bod menywod yn canolbwyntio ar sectorau a galwedigaethau sy'n aml yn gysylltiedig â chyflog isel, ac oriau isel a chontractau achlysurol neu gontractau dim oriau. Mae ein cymdeithas yn dal i fod yn seiliedig ar normau rhagfarnllyd o ran rhywedd, felly mae'n rhaid i ni barhau i herio stereoteipiau rhyw ac annog merched a menywod i ddewis gyrfaoedd anhraddodiadol, sy’n talu'n well.
Lywydd, mae ein prosiect Cenedl Hyblyg 2, a gynhelir mewn partneriaeth â Chwarae Teg ac a ariennir ar y cyd gan yr Undeb Ewropeaidd, yn cefnogi 2,207 o fenywod ac yn gweithio gyda 500 o gyflogwyr i hyrwyddo datblygiad gyrfaol menywod ac i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar naw sector allweddol o economi Cymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd, iechyd ac ynni.
Fel y dywedais, mae'n rhaid i ni gydnabod pwysigrwydd dynion yn chwarae eu rhan mewn gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae gennym i gyd ran i'w chwarae. Heb ddynion fel cynghreiriaid ymrwymedig a phartneriaid cefnogol yn yr ymgyrch hon a arweinir gan fenywod, ni fydd newid gwirioneddol yn digwydd. Mae effeithiau cadarnhaol cydraddoldeb rhywiol yn dda i bob un ohonom—ein teuluoedd a chymdeithas yn gyffredinol.
Mae'n rhaid i ni hefyd sefyll gyda'n gilydd yn erbyn cam-drin domestig a mathau eraill o drais yn erbyn menywod, a all gael canlyniadau dinistriol a thymor hir. Mae ein Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth. Bwriedir iddi roi pwyslais strategol ar y materion hyn i atal trais lle bynnag y bo modd, ac i ddarparu cefnogaeth effeithiol i ddioddefwyr. Ond yr allwedd yw newid agweddau a chyflwyno’r neges nad yw ymddygiad treisgar yn dderbyniol dan unrhyw amgylchiadau, ac ni fydd yn cael ei oddef yn ein cymdeithas ni.
Mae hwn yn ddiwrnod i ddathlu llwyddiannau menywod, Lywydd. Yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae gennym Lywydd benywaidd a Dirprwy Lywydd benywaidd. O fewn Llywodraeth Cymru, mae’r Ysgrifennydd Parhaol, y prif swyddog gwyddonol a'r prif swyddog milfeddygol i gyd yn fenywod. Mae’r pedwar comisiynydd yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, pobl hŷn, plant a'r iaith Gymraeg i gyd yn fenywod. Am fodelau gwych, bob un ohonynt, Lywydd. Rwy'n siŵr bod eu cyflawniadau yn fodd i dynnu sylw at y dalent sydd gennym yma yng Nghymru, a byddwn yn annog merched eraill i ymgeisio am yr uwch swyddi hynny. Lywydd, nid ydym yn hunanfodlon. Mae llawer mwy i'w wneud cyn y gallwn honni ein bod wedi creu dyfodol cyfartal. Ond mae gan Gymru lawer i ymfalchïo ynddo ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi menywod a merched i anelu a chyflawni yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Diolch.