Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr, a diolch am ddod â’r ddadl bwysig yma gerbron. Mae’n wir i ddweud bod sefyllfa merched wedi newid yn syfrdanol ers dyddiau’r suffragettes, ond mae cydraddoldeb yn bell, bell o fod yn realiti. Gobeithio bod gwelliannau Plaid Cymru yn nodi mewn ffordd ymarferol un neu ddau faes lle gall y Llywodraeth yma gael dylanwad.
Mae un o’n gwelliannau ni yn ymwneud â gwersi perthynas iach yn yr ysgol. Mae’r sector addysg yn Lloegr wedi cyhoeddi bod addysg rhyw a pherthynas am fod yn orfodol yn yr ysgolion. Mi fydd addysg perthnasau iach yn cael ei dysgu yn yr ysgolion cynradd yno, gyda’r ffocws ar adeiladu perthnasau iach ac aros yn ddiogel. Ac mi fydd yn ddyletswydd ar ysgolion uwchradd i ddysgu addysg rhyw a pherthnasau, lle bydd y disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o berthynas iach ymhlith oedolion, gydag addysg rhyw yn cael ei dysgu yn yr un un cyd-destun. Nid oes gan ysgolion yng Nghymru ddim dyletswydd i ddysgu addysg rhyw a pherthnasau ymhellach na dysgu myfyrwyr am HIV, AIDS a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol.
Mae adroddiad gan y Senedd Ewropeaidd yn nodi taw’r gwledydd Nordig a Benelux sydd ag addysg rhyw a pherthnasau o’r safon uchaf. Mae’r adroddiad hwnnw yn awgrymu hefyd fod lefelau uchel o feichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau yn digwydd mewn gwledydd pan fo addysg rhyw a pherthnasau yn cael ei dysgu’n rhy hwyr yn eu bywydau nhw. Fe nodwyd mewn adroddiad o brifysgol Bryste yn 2016 fod addysg LGBT yn anweledig o fewn addysg rhyw a pherthnasau ac yn atgyfnerthu’r rhagfarn yn erbyn pobl LGBT. Mae ymchwil yn dangos bod addysg rhyw a pherthnasau effeithiol nid yn unig yn lleihau cyfraddau beichiogrwydd yn yr arddegau a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ond fe all hefyd, wrth gwrs, agor trafodaethau yn ymwneud â cham-drin merched a chyfrannu’n sylweddol i’r broses o leihau trais yn erbyn menywod.
Bu i 8.3 y cant o fenywod rhwng 16 a 59 oed yng Nghymru ddioddef cam-drin domestig yn ystod 2016, o gymharu â 4.3 y cant o ddynion. Yn y ffigur hwn, bu i 3 y cant o fenywod ddioddef ymosodiad rhywiol, o gymharu â 0.5 y cant o ddynion, bu i 6.5 y cant o fenywod ddioddef cam-drin gan bartner, o gymharu â 2.7 y cant o ddynion, a bu i 4.4 y cant o fenywod ddioddef stelcio, o gymharu â 3.5 y cant o ddynion. Mae hyn yn dangos anghydraddoldeb ‘gender’ clir. Er mwyn newid hyn, mae angen cyflwyno addysg perthnasoedd iach cyn gynted â phosib. Rydw i yn nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg wedi sefydlu panel i helpu gyda’r gwaith yma yng Nghymru. Ond rwyf yn nodi pryder gan rai nad ydy’r agwedd yma o ddatblygu’r cwricwlwm cenedlaethol yn cael cymaint o flaenoriaeth ag y gallai gan y Llywodraeth yma a bod perig inni golli’r cyfle gwirioneddol y mae adolygiad Donaldson yn ei gynnig i ni.
Rwy’n troi at un arall o’n gwelliannau yn ymwneud â chynrychiolaeth. Yn 2014 dim ond dau o bob 100 busnes gorau Cymru oedd â menyw fel prif weithredwr. O ran llywodraeth leol, dim ond 18 y cant o brif weithredwyr sy’n fenywod, a 27 y cant yn unig o gynghorwyr sydd yn ferched. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â staff awdurdodau lleol oedd â 72 y cant o fenywod yn 2014. Mae’r gyfran o Aelodau’r Cynulliad sy’n fenywod wedi disgyn i 41.7 y cant o 50 y cant yn 2003, ac mae gan fy mhlaid i le i wella. Mae angen ailgyflwyno system fwriadol a mecanwaith bwriadus i godi’r ganran yn ôl i fyny, yn fy marn i. Mi fyddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, yn cyflwyno byrddau rheoli sydd â chydbwysedd rhyw yn y sefydliadau sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dau faes yn unig yr ydw i wedi cyffwrdd â nhw’r prynhawn yma, ond dau faes y gall y Llywodraeth yma, mewn ffordd hollol ymarferol, efo’r ewyllys cywir, wneud rhywbeth yn eu cylch a’n helpu ni i symud tuag at Gymru llawer mwy cyfartal. Diolch.