Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd cael siarad yn y ddadl hon heddiw. Yn wir, mae llawer o fy nghydweithwyr yma wedi fy ysbrydoli i, ac mae'n fraint ymuno â hwy ac eraill yn y Siambr hon.
Gwn fy mod yn sefyll ar ysgwyddau pobl eraill. Mae llawer o fenywod o'n blaenau ni wedi aberthu ac ymladd brwydrau fel y gall menywod gael y bleidlais, mynd i brifysgol, gweithio a dewis sut i fyw eu bywydau. Rydym wedi dod yn bell ers y swffragetiaid megis Margaret Mackworth, Arglwyddes Rhondda, ond mae llawer mwy i'w wneud. Fel Aelod newydd, dyma’r cyfle cyntaf i mi ei gael yn y Siambr i dalu teyrnged i fy rhagflaenydd fel yr Aelod dros Orllewin Casnewydd, y Fonesig Rosemary Butler. Mae Rosemary yn sicr wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ac i lawer o fenywod eraill yng Nghasnewydd a ledled Cymru. Fel Llywydd, defnyddiodd ei safle i annog a chefnogi menywod mewn bywyd cyhoeddus. Deallodd fod gweithlu amrywiol yn well i bawb. Mae'n bwysig sicrhau nad yw menywod mewn swyddi uwch yn tynnu’r ysgol i fyny, ond yn dal llaw allan i fenywod eraill. Gwnaeth ymgyrch Rosemary, sef Merched mewn Bywyd Cyhoeddus, wahaniaeth yn sicr. Yng Nghasnewydd, trefnodd ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod dros nifer o flynyddoedd, gan ddwyn ynghyd menywod o bob cefndir i gyfarfod, dysgu oddi wrth ei gilydd a chael hwyl. Roedd bob amser yn awyddus i gefnogi ac annog menywod i roi cynnig ar rywbeth newydd, i roi cynnig arni a pheidio bod ofn methu, rhywbeth y gwn y bydd yn parhau i’w wneud.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hefyd yn ymwneud â chydnabod gwerth merched mewn swyddogaethau allweddol, megis gofalwyr cyflogedig a di-dâl. Mae ffordd bell i fynd i ddatrys y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac mae'n frawychus yn 2017 y gall eich rhyw effeithio ar faint yr ydych yn cael eich talu. Yn wir, amcangyfrifodd Fforwm Economaidd y Byd na fydd y bwlch cyflog byd-eang rhwng y rhywiau yn cau tan 2186. Mae hyn yn anfaddeuol. Ar hyn o bryd y DU yw’r ugeinfed yn y byd, y tu ôl i Nicaragua, Burundi, Iwerddon, Slofenia a'r Almaen. Gallwn wneud yn llawer gwell.
Nid yw hawliau cyfartal yn frwydr i fenywod yn unig. Roedd fy nhad-cu, a oedd yn of o Lyncorrwg, yn falch o alw ei hun yn ffeminydd. Bu farw bum mlynedd yn ôl pan oedd yn 89, ac roedd yn credu’n llwyr mewn cydraddoldeb ac yn gwybod ei fod yn rhywbeth yr oedd angen i ddynion ymladd drosto hefyd. Ac rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn credu hynny, ac mae e'n hyrwyddwr cydraddoldeb.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ni fyfyrio a dathlu gwaith gwych a chyflawniadau menywod yn ein cymuned. Ers cael fy ethol, rwyf wedi cwrdd â menywod sy'n ymgyrchwyr, arweinwyr ac sydd yn cyflawni pethau—menywod dygn, lawer ohonynt yn bwrw ymlaen heb sylweddoli'r gwahaniaeth y maent yn ei wneud. Y thema eleni yw 'Byddwch yn feiddgar ar gyfer newid', a, dim ond tri mis wedi mynd ers cychwyn 2017, rydym eisoes wedi gweld merched yn gorymdeithio ar strydoedd ledled y byd i brotestio’n heddychlon yn erbyn gwleidyddiaeth ymrannol. Gallwn weld o'r iaith atgas ar y cyfryngau cymdeithasol yn erbyn menywod nad yw’r frwydr dros gydraddoldeb ar ben. Mae'n rhaid i ni wynebu'r heriau hynny a phrofi'r datblygiadau a wnaed.
Mewn sawl rhan o'r byd, ni fydd menywod yn dathlu. Yn wir, efallai y byddant yn brwydro i oroesi’r diwrnod. Mewn gwledydd fel Syria, Irac a Nigeria, mae merched yn wynebu trais rhywiol fel arf rhyfel. Rydym yn clywed sut, mewn rhai gwledydd, mae menywod a merched yn cael eu gorfodi i briodi, eu cam-drin yn rhywiol a’u treisio gan eu gwŷr honedig a'u gwerthu i bobl eraill. Mae hefyd yn gyfle i feddwl am y ffoaduriaid hynny sydd wedi teithio cannoedd o filltiroedd i chwilio am ddiogelwch, lawer ohonynt yn famau, yn cael eu gorfodi i gario eu plant o un parth perygl i'r nesaf. Ymddengys bod brwydrau yr oeddem yn meddwl oedd wedi eu hennill yn plygu yn y gwynt. Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn sefyll gyda'n gilydd, yn dathlu'r hyn yr ydym wedi ei gyflawni ac yn cymryd camau beiddgar ar gyfer newid.