Part of QNR – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2017.
Mae pob un o weithredwyr y rhwydwaith ffonau symudol wedi ymrwymo i ddarparu cyrhaeddiad daearyddol o 90 y cant ar draws Cymru, yn cynnwys Ynys Môn, gan roi signal dibynadwy ar gyfer cyfathrebu lleisiol erbyn diwedd 2017. Rydym yn bwriadu cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer gwella cysylltedd ffonau symudol yng Nghymru, a darparu manylion i ddangos sut y byddwn yn cyflawni hynny.