<p>Ailbrisio Ardrethi Busnes</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:30, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £20 miliwn yn ychwanegol i gefnogi busnesau sy’n cael eu heffeithio gan yr ailbrisio ardrethi—£10 miliwn trwy ein cynllun rhyddhad trosiannol a £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi stryd fawr. Mae hyn yn ychwanegol at ein rhyddhad ardrethi o £100 miliwn i fusnesau bach. Rydym wedi gweithredu i roi sicrwydd a diogelwch i drethdalwyr yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio gan yr ailbrisio.