<p>Effeithlonrwydd Ynni mewn Cartrefi</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:37, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae ein stoc dai ymhlith yr hynaf yn Ewrop, ac mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar gynlluniau ôl-ffitio gan fod llawer o’r stoc dai honno wedi ei meddiannu gan bobl sydd ag incwm isel neu’n agored i niwed mewn ffordd arall. Yn wir, pe byddem ni’n gwella'r sgiliau hyn ac yn datblygu cynhyrchion ôl-ffitio, byddem yn canfod marchnad wedyn mewn rhannau eraill o'r DU ar gyfer y sgiliau a’r cynhyrchion hynny, ac mewn rhannau eraill o Ewrop yn wir.