<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:43, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n eithaf eglur beth mae eich Llywodraeth chi ei eisiau. Yr hyn nad yw’n eglur yw’r hyn y byddwch yn ei wneud os na fyddwch chi’n ei gael. Ddoe, gwelsom sut y bydd cam-drafod Brexit yn arwain at refferendwm newydd ar annibyniaeth i'r Alban. Gallai’r refferendwm hwnnw roi terfyn ar y Deyrnas Unedig. Gallai’r wladwriaeth, fel yr ydym yn ei hadnabod, beidio â bodoli mwyach, a byddai hynny'n newid radical i Gymru. Ond byddai hefyd yn creu’r cyfle i fod yn fwy beiddgar, yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy hyderus am ein dyfodol ein hunain, ac rwy’n amau ​​y gallai fod pobl yn y Siambr hon hyd yn oed a gefnogodd ymgyrch ‘Na’ yr Alban y tro diwethaf a fyddai’n teimlo'n llai cyfforddus yn gwneud hynny nawr. Arweinydd y tŷ, roedd diffyg manylion yn natganiad y Prif Weinidog ddoe ar refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Nid oedd yn dweud fawr ddim am ddyfodol Cymru. A allwch chi ychwanegu mwy o fanylion ar ble’r ydych chi’n gweld y Llywodraeth yn mynd â Chymru dros y ddwy flynedd nesaf? Beth yw eich gweledigaeth? A pha gynlluniau y mae’n rhaid i’ch Llywodraeth eu rhoi ar waith ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol ac economaidd y wlad hon?