Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 14 Mawrth 2017.
Mae ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn dangos bod lefel gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru ar seilwaith yn y de-ddwyrain ddwywaith hynny fesul pen yn y gogledd, a thair gwaith y ffigur ar gyfer y canolbarth a’r gorllewin. Hynny yw, pryder ynghylch y bwlch buddsoddi enfawr hwnnw a arweiniodd at fy mhlaid yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol yr wythnos diwethaf. Pa sicrwydd—[Torri ar draws.] Pa sicrwydd—[Torri ar draws.]