<p>Awtistiaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:02, 14 Mawrth 2017

Diolch ichi am eich ateb. Mae Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru, wrth gwrs, wedi galw am gofnod o’r niferoedd o bobl sydd ar y sbectrwm er mwyn helpu awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau yn fwy effeithiol ac yn fwy cynhwysfawr. Nawr, mi fydd disgwyl cofnod, wrth gwrs, o’r bobl awtistig sydd â chynllun gofal o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, ond mae nifer o bobl ag awtistiaeth sydd ddim â chynllun gofal ac mae yna bobl eraill sydd yn mynd i mewn ac allan o’r system. A gaf i ofyn, felly, pryd fydd eich Llywodraeth chi’n mynnu bod cofnod llawn yn cael ei gadw er mwyn sicrhau bod yr adnoddau llawn a’r ddarpariaeth lawn yn cael eu darparu lle mae eu hangen ym mhob rhan o Gymru?