<p>Dyletswyddau Swyddogion Traffig (Gogledd Cymru)</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:15, 14 Mawrth 2017

Fel mae arweinydd y tŷ newydd gadarnhau, mae swyddogion traffig y gogledd yn patrolio’r A55 hyd at Lanfairpwll. Wrth gwrs, nid ydy’r A55 yn stopio yn Llanfairpwll; mae hi’n parhau'r holl ffordd ar draws Ynys Môn i borthladd Caergybi. Mae hyn, meddai swyddogion heddlu wrthyf i, yn achosi problemau iddyn nhw, gan ei bod yn clymu adnoddau er mwyn delio â damweiniau ffyrdd ac ati, sydd ddim yn digwydd mewn rhannau eraill o’r gogledd. A wnaiff y Llywodraeth edrych eto ar y strategaeth ar hyn o bryd, sydd yn stopio yn Llanfairpwll, er mwyn sicrhau bod yr A55 gyfan yn cael manteisio ar waith y swyddogion traffig?