Part of the debate – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2017.
Cynnig NDM6255 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:
a) creu rhagor o fentrau er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac amcanion Symud Cymru Ymlaen fel cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren.
b) mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu.
c) sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.