Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 14 Mawrth 2017.
Ar Ddiwrnod y Gymanwlad eleni, bydd baton yn gadael Palas Buckingham ac yn dechrau taith hir a hynod. Dros y deuddeng mis nesaf, bydd y baton hwn yn ymweld â phobl sy'n byw yng ngwledydd a thiriogaethau teulu’r Gymanwlad ym mhob cyfandir a chefnfor.
Bydd yn cael ei gludo ar ei daith gan filoedd o bobl o bob oed a chefndir. Erbyn iddo gyrraedd ei gyrchfan derfynol, bydd Baton y Frenhines wedi dwyn ynghyd—drwy ei lwybr a’i symbolaeth—bron 2.5 biliwn o bobl sy'n rhannu'r cysylltiad arbennig o fod yn ddinasyddion y Gymanwlad.
Bydd y Baton yn cynnwys neges ysgrifenedig a fydd yn cael ei hagor a'i darllen yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae neges fwy pwerus fyth i’w gweld a’i phrofi wrth i’r Baton gael ei drosglwyddo o law i law, o’r traethau i’r mynyddoedd, drwy ddinasoedd, trefi, a phentrefi. Dyma neges Cymanwlad sy’n hyrwyddo heddwch.
Yn syml, parch a dealltwriaeth yw’r conglfeini y mae heddwch wedi’i seilio arnynt. Drwy gydweithio, rydym yn hyrwyddo heddwch drwy amddiffyn urddas pob unigolyn a chymuned.
Drwy gynnal cyfiawnder a rheolaeth y gyfraith, a thrwy ymdrechu i greu cymdeithasau sy'n deg ac sy’n cynnig cyfleoedd i bawb, rydym yn goresgyn rhaniadau ac yn cymodi, a hynny er mwyn sicrhau bod buddion unrhyw gynnydd neu ffyniant yn cael eu lluosi a’u rhannu.
Fel aelodau o deulu’r Gymanwlad, mae llawer o bethau y gallwn fod yn ddiolchgar yn eu cylch—y pethau hynny yr ydym wedi’u hetifeddu o’n cyndeidiau. Drwy gonsensws a chydweithio, mae pethau mawr wedi’u cyflawni.
Gallwn ddod o hyd i fudd a boddhad pellach drwy barhau I gydweithio ag eraill mewn ysbryd o ewyllys da, er mwyn creu dyfodol heddychlon a thoreithiog i bob un o ddinasyddion y Gymanwlad.