Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 14 Mawrth 2017.
Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, a gaf i atgoffa'r Siambr bod fy ngwraig yn radiograffydd ac felly yn ôl pob tebyg mae hi ar y rhestr o'r rhai y mae eu data wedi ei danseilio? Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am yr atebion yr ydych wedi eu rhoi, ac edrychaf ymlaen at y datganiadau ysgrifenedig y byddwch yn eu darparu. Ond, yn amlwg, yn ogystal â'r materion tanseilio diogelwch data, mae cwestiynau ynghylch pa fath o wybodaeth a oedd yn cael ei chadw a pha fath o wybodaeth y dylid ei chadw, oherwydd nid wyf yn credu bod yr wybodaeth yr wyf yn clywed amdani yn briodol ar gyfer cronfa ddata o’r fath, yn yr ystyr hwnnw. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau, yn y dyfodol, bod y data sydd am gael ei gadw am bersonél ddim ond yn berthnasol i'r testun penodol y mae’n cael ei gadw ar ei gyfer, a ddim mewn gwirionedd ar sail ehangach. Er enghraifft, rwy'n clywed am gyfeiriadau cartref hyd yn oed. Wel, nid yw cyfeiriadau cartref pobl yn berthnasol i'r wybodaeth hon. Felly, mae'n bwysig ein bod yn egluro pa ddata sy'n cael eu cynnwys, ac a fydd ef yn cynnal arolwg ac adolygiad o'r math hwnnw o ddata i sicrhau, yn y dyfodol, mai dim ond data perthnasol sy’n cael ei gadw am unigolion at ddibenion penodol?
Ac a all ef hefyd sicrhau bod pobl yn cael gwybod? Rydych chi wedi dweud yr wythnos hon y byddant. Nid oedd fy ngwraig, pan siaradais â hi ddoe—nid oedd hi’n gweithio ddoe—wedi cael gwybod am yr achos o danseilio, ac felly rwy'n tybio nad oedd ei chydweithwyr wedi cael gwybod am yr achos o danseilio yn PABM. Yn hynny o beth, mae'n bwysig bod pobl yn cael gwybod pa wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanynt, beth allai fod wedi cael ei golli ar eu rhan, fel y gallant adolygu'r wybodaeth honno. Oherwydd, rwy’n clywed bod Landauer yn cynnig mynediad yn rhad ac am ddim i Experian am ddwy flynedd. Wel, gallai hyn fod yn hwy na hynny i ddechrau, a pham y dylai rhywun orfod edrych ar y wefan hon ddydd ar ôl dydd i weld a oes perygl i rywun ddwyn eu hunaniaeth mewn gwirionedd?