Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 14 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, dyma’r achos diweddaraf o danseilio diogelwch data i daro ein gwasanaeth iechyd, ac mae’r achos penodol hwn yn drychinebus i'r staff dan sylw. Er nad oedd unrhyw ddata cleifion wedi ei gynnwys ar yr achlysur hwn, mae'n tynnu sylw at bryderon llawer o bobl na ellir ymddiried yn y GIG i gadw gwybodaeth bersonol. Yn gynharach y mis hwn, cafodd cyn nyrs ei diswyddo gan fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda am dorri cyfrinachedd cleifion. Ddoe, clywsom fod ffisiotherapydd yn y gogledd wedi cael ei atal dros dro am fynd â ffeiliau cleifion heb ganiatâd. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw'r achosion hyn o danseilio diogelwch data yn gwneud fawr i adfer ffydd ymhlith y cyhoedd yng Nghymru bod eu gwybodaeth iechyd sensitif mewn dwylo diogel gyda GIG Cymru. Mae gwledydd eraill wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n diogelu gwybodaeth iechyd yn ychwanegol at y ddeddfwriaeth diogelu data sy'n bodoli eisoes. Onid ydych chi'n credu ei bod yn bryd i ninnau wneud yr un peth fel y gallwn dawelu meddyliau’r cyhoedd a staff y GIG yng Nghymru fod eu gwybodaeth sensitif yn ddiogel?