Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 14 Mawrth 2017.
Rwy'n cydymdeimlo’n fawr â’r unigolion sy'n gweithio yn y GIG yr effeithiwyd arnynt yn y ffordd hon a hefyd, wrth gwrs, â’r rhai yr effeithiwyd arnynt sy'n gweithio y tu allan i'r GIG yng Nghymru. Rwyf, fodd bynnag, yn credu bod ymddiriedolaeth ysbyty Felindre sy'n rhedeg y gwasanaeth diogelu rhag ymbelydredd yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd wedi ymateb yn briodol i'r digwyddiad hwn, a oedd, wrth gwrs, y tu hwnt i'w rheolaeth. Rwy’n dawel fy meddwl, yn sicr yn achos staff Felindre y mae hyn wedi effeithio arnynt, bod digon o gefnogaeth wedi ei rhoi i'r 530 o unigolion yr effeithiwyd arnynt. Gwn yn ogystal â chael y llythyr—anfonwyd llythyrau unigol at yr unigolion dan sylw—y bu hefyd gyfle i ymgynghori’n unigol â'r holl bobl yr effeithiwyd arnynt lle gallant ofyn unrhyw gwestiynau penodol a chodi unrhyw ymholiadau. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod y byrddau iechyd eraill sydd yn y broses o hysbysu eu haelodau staff y gallai’r achos hwn o danseilio fod wedi digwydd—y dylid cynnig cyfle i ymgynghori’n unigol hefyd, oherwydd credaf ei bod yn ffordd o dawelu meddyliau, fel eu bod yn gallu cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb?
Hefyd, rwyf yn credu ei bod yn bwysig, yn amlwg, bod unigolion yn cael gwybod cyn gynted ag y bo modd, ond mae hefyd yn bwysig iawn bod yr unigolion cywir, yn y cyfeiriadau cartref cywir ac yn yr ymddiriedolaethau cywir yn cael eu hysbysu. O gofio'r miloedd y mae hyn wedi effeithio arnynt, mae'n gwbl hanfodol bod amser i sefydlu nad ydych, er enghraifft, yn cysylltu â rhywun a allai fod wedi marw yn y cyfamser, ond eich bod yn cysylltu â rhywun sydd yno mewn gwirionedd, yn gweithio yn yr ymddiriedolaeth, ac y mae hyn wedi effeithio arno. Felly, mae’n anochel y bydd oedi wrth edrych ar yr holl fanylion hyn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn hanfodol cymryd gofal wrth ddod i gysylltiad â’r unigolion dan sylw, ond y dylid ei wneud cyn gynted â phosibl?