Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 14 Mawrth 2017.
A gaf i alw am ddatganiad unigol ar gyllid yr heddlu yng nghyd-destun yr ardoll prentisiaeth? Fel y gwyddoch efallai, gall heddluoedd yn Lloegr gael gafael ar gyllid ar gyfer prentisiaethau trwy'r cyfrif gwasanaeth prentisiaethau digidol newydd yno, ond, yng Nghymru, mae dull Llywodraeth Cymru, sy’n wahanol, yn golygu na all heddluoedd Cymru wneud hyn. Pan godais hyn yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, ynghylch ein hymchwiliad i’r ardoll prentisiaeth gyda'r Gweinidog sgiliau, tynnais sylw at yr angen iddyn nhw gael gafaael ar gyllid ar gyfer cyrsiau achrededig mewn colegau yng Nghymru, lle maen nhw’n cyfrannu dros £2 filiwn y flwyddyn at yr ardoll, ond ddim yn gallu cael mynediad ato ar hyn o bryd. Dywedwyd wrthyf y byddai Llywodraeth Cymru, yn hytrach, yn gwneud trefniadau grant neu gontract trwy ddeialog â’r plismona coleg, a bod ganddyn nhw gyfarfodydd yn y dyddiadur gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Wel, y penwythnos diwethaf, fe’m hysbyswyd bod y cyfarfodydd hynny gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu wedi cael eu canslo a heb eu hail-drefnu. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r Cynulliad hwn yn haeddu datganiad i’n diweddaru fel y gallwn sicrhau nad yw swyddogion yn ein heddluoedd yng Nghymru yn cael eu cosbi ac y gallant gael gafael ar y cyllid hwnnw ar gyfer eu hyfforddiant a’u prentisiaethau hanfodol.