Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 14 Mawrth 2017.
Wel, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bolisi arloesol a phwysig iawn o ran Llwybrau Diogel i'r Ysgol, gan ddarparu cyllid i awdurdodau lleol. Wrth gwrs, maen nhw’n gwneud cais am y cyllid hwnnw ac yn cyflwyno cynigion ar gyfer llwybrau diogel i'r ysgol a llwybrau diogel yn y cymunedau hynny. Mae'r cyngor, wrth gwrs, yn gwbl ymwybodol ac yn eglur ynghylch ei rwymedigaethau statudol o ran y Mesur teithio gan ddysgwyr.