7. 3. Datganiad: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 4:07, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich cwestiwn. Rwy’n cofio'n glir yr ymweliad â Chydweli, yn ôl yn 2013. O hynny symudais i is-adran yr amgylchedd, ac yn awr rwy’n ôl, fel y maent yn ei ddweud yng Nghaliffornia.  Y mater dan sylw o ran y cynllun mawr a welais yng Nghydweli oedd rhywbeth am bobl leol yn buddsoddi yn eu cymunedau ac yn cael y weledigaeth i wneud hynny. Fe wnes i longyfarch yr awdurdod bryd hynny.

Gadael y Cyfrif Refeniw Tai: hawliais bob clod am hynny, ond mewn gwirionedd, roedd yn ymwneud yn rhannol â Jocelyn Davies, sef y Gweinidog tai blaenorol, a gychwynnodd y rhaglen honno. Ailafael yn y rhaglen ar y diwedd wnes i, ac roeddwn yn ddigon ffodus o gael ei chyflwyno. Ond roedd llawer o waith wedi mynd i mewn i gefndir hwnnw, gan wneud yn siŵr eto ein bod wedi gallu cyflawni yn y tymor hwy gyda buddsoddiad yno.

Fe wnes i fethu un cwestiwn, a godwyd gan Angela Burns ynghylch a wyf yn ymddiried yn yr awdurdodau lleol. Rwy'n ymddiried yn yr awdurdodau lleol yn gyfan gwbl i adeiladu mwy o gartrefi, ond y broblem yw nad yw'r ddeddfwriaeth yn eu diogelu yn y tymor hir. Dyna pam yr ydym yn gweld awdurdodau blaengar, fel Sir y Fflint, fel llawer o rai eraill ar draws—. Mae Rhondda Cynon Taf yn awdurdod lleol arall sy'n gwneud rhai buddsoddiadau mawr. Mae'n rhaid i ni roi'r offer iddynt i allu cyflawni hyn hefyd, a dyna pam y bydd y Bil hwn nid yn unig yn Fil sy’n rhoi terfyn ar yr hawl i brynu, ond sy’n gwneud yn siŵr bod ein buddsoddiad clyfar mewn adeiladu cartrefi newydd a stoc tai cymdeithasol yn cael ei ddiogelu ar gyfer ein pobl ifanc i’r dyfodol.