Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 14 Mawrth 2017.
Rydym ni’n cydnabod mai addysg yw’r prif gyfrwng ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg newydd. Rydym ni eisoes yn gwybod bod ychydig o dan 9,000 o blant pum oed yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Ni allwn ni fodloni ar hyn. Mae angen i Gymru fod â system addysg gynhwysol sy'n cynnal ac yn creu siaradwyr Cymraeg. Trwy greu galw am addysg cyfrwng Cymraeg, sicrhau bod mynediad hwylus at ofal plant yn y blynyddoedd allweddol hynny cyn addysg statudol, a thrwy adolygu bod lleoedd digonol ar gael, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r cyfleoedd hyn i gryfhau a gweld twf yn seilwaith addysg cyfrwng Cymraeg. Rydw i'n credu'n gryf mai cydweithio mewn modd cadarnhaol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yw'r unig ffordd ymlaen. Dyna pam rwyf am i’r bartneriaeth hon gryfhau a datblygu ymhellach, fel y bydd y cynlluniau hyn yn gweithio'n well, gan adlewyrchu’r angen i sicrhau twf yn y ddarpariaeth. Mae’r fframwaith ddeddfwriaethol wedi gweithio’n dda i ni, gan sicrhau statws i gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym ni nawr mewn cyfnod newydd. Felly, er mwyn paratoi ar gyfer y cyfnod newydd hwn o gynllunio, mi fyddaf i’n gofyn i fy swyddogion i edrych eto ar y ddeddfwriaeth mewn rhagor o fanylder.
Mae'n bryd i ni nawr gymryd camau pendant. Dyna pam y mae Aled Roberts wedi cael ei benodi i gynnal arolwg brys o'r system bresennol ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau presennol, 2017 i 2020. Mi fydd Aled, wrth gwrs, yn cyfrannu ei brofiad helaeth a’i allu i sgrwtineiddio i’r gwaith hwn. Mae’n gyn-arweinydd llywodraeth leol, yn llywodraethwr ysgol ac, wrth gwrs, yn gyn-Aelod fan hyn gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y gogledd. Mae ganddo fe gefndir a phrofiad sy’n angenrheidiol i ddatrys pam nad yw cynllunio ieithyddol o ran y Gymraeg mor effeithiol ag y mae angen iddo fod. Mi fydd Aled yn cynnig argymhellion ar sut i ddatblygu cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg. Mi fydd yn rhaid i’r argymhellion hyn fod yn ddiamwys a rhoi cyfeiriad clir i mi o ran y newid sydd ei angen. Bydd cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod hwn yn hanfodol ar gyfer sicrhau canlyniad llwyddiannus. Byddaf i’n gofyn i bob un awdurdod lleol ledled Cymru i gyfrannu at yr adolygiad hwn.
Yr arolwg brys hwn fydd cam cyntaf y newid. Ni allaf ragweld beth fydd casgliadau’r adolygiad, ond bydd yn rhaid i unrhyw waith datblygu yn y dyfodol gynnwys y rhai sy'n darparu addysg ar lawr gwlad: athrawon, llywodraethwyr, penaethiaid, staff cefnogi—y rhai sydd â rhan sylweddol i'w chwarae er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mi fydd fy swyddogion i yn cysylltu â phob un awdurdod lleol ynghylch amserlen yr adolygiad hwn ac yn nodi pryd y byddent yn derbyn sylwadau ar eu cynlluniau. Bydd y camau a gymerwn yn awr yn dylanwadu ar siaradwyr Cymraeg y dyfodol. Rydym ni am weld yr iaith Gymraeg yn ganolog yn ein cymunedau. Pwy bynnag fydd yn sefyll yma yn 2050, rydw i eisiau sicrhau ei fod yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwn fel cyfnod o newid sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’r iaith a'i siaradwyr.
Yn fy natganiad cyntaf i fel Gweinidog, dywedais i fy mod i am sicrhau bod y cynlluniau yn arwain at gamau pendant ac amserol sy’n arwain at dwf mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym ni wedi cymryd camau ymlaen, ond nid yw'r camau’n ddigonol. Mae angen inni wneud mwy. Yn yr un datganiad hwnnw, cyfeiriais at bwysigrwydd y cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru a fydd yn cynnwys un continwwm dysgu ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mi fydd hyn yn rhoi cymaint o gyfleoedd ar gyfer y plant hynny sydd yn y system addysg, yn ogystal â disgyblion y dyfodol. Felly, rwyf am i’r cynlluniau adlewyrchu’n well natur unigryw ac amrywiol Cymru—ein bod ni’n dathlu’r gwahaniaethau hyn ac yn caniatáu i’r cynlluniau ddangos natur arbennig ein hardaloedd a rhanbarthau unigol. Mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Lywydd, a rhanddeiliaid allweddol eraill, byddwn ni’n gwneud i’r cynlluniau hyn weithio i Gymru.