8. 4. Datganiad: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg — Y Ffordd Ymlaen

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:46, 14 Mawrth 2017

Mi oeddech chi’n iawn, wrth ysgrifennu’r llythyr, fod yna rywfaint o gynlluniau heb ddigon o uchelgais. Beth rydw i wedi trio’i wneud y prynhawn yma yw ymateb i hynny mewn ffordd bositif, ac nid drwy orymateb, os ydych chi’n licio, ond ymateb mewn ffordd sy’n cadarnhau ein huchelgais a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ac i sicrhau ein bod ni’n cyrraedd ein huchelgais drwy gydweithio. Rwy’n mawr obeithio y byddwn ni’n gallu gwneud hynny.

Mi fydd y broses yma yn rhedeg ymlaen ac mi fydd y strategaeth yn dod fel rhan—wel, mi fydd y broses yma yn rhan o’r strategaeth, wrth gwrs. Pan fyddwn ni’n cyhoeddi’r strategaeth yn yr haf, mi fyddwch chi’n gweld bod sawl elfen wahanol i’r strategaeth. Mae’n rhaid i gynlluniau addysg Gymraeg fod yn rhan bwysig o’r strategaeth addysg, ac mi fydd y strategaeth addysg yn ffitio i mewn i fframwaith a strategaeth yn ei chyfanrwydd, os ydych chi’n licio. So, mi fydd yna strategaeth sy’n fwy holistig ar gyfer y dyfodol, ond mi fydd y cynlluniau addysg yma yn rhan hanfodol ohono fe.

Rwy’n mawr obeithio y gallwn ni gyhoeddi cynlluniau a fydd â’r uchelgais rydych chi’n dweud eich bod chi eisiau ei weld, ac rwy’n cytuno bod angen ei weld, ac wedyn mi fydd hynny yn rhan bwysig o’r strategaeth ar gyfer y dyfodol. Ac rwy’n mawr obeithio, wrth inni gydweithio gyda’n gilydd, y gallwn ni rannu arfer da a sicrhau ein bod ni’n dysgu gwersi i’n gilydd hefyd. Mae rhyw sôn wedi bod heddiw amboutu sut rydym ni’n mesur y galw ar gyfer addysg Gymraeg, ac mae hynny’n enghraifft, efallai, o sut y gall cynghorau gydweithio i ddysgu oddi wrth ei gilydd i sicrhau ein bod ni ddim jest yn rhannu’r uchelgais, ond ein bod ni’n rhannu’r ffyrdd gwahanol o wireddu’r uchelgais. Fy mhwyslais i y prynhawn yma yw sicrhau bod y broses dros y misoedd nesaf yn broses bositif, lle rydym ni’n cydweithio gyda’n gilydd i gyrraedd y nod rydym ni i gyd yn cytuno ein bod ni eisiau ei gyrraedd.