Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 14 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i'r ddau Aelod sydd wedi cymryd rhan am eu cwestiynau diddorol a pherthnasol iawn. Mae Dai Lloyd yn llygad ei le fod y Bil wedi bod yn ddadleuol ar sawl adeg yn ystod ei hynt. Mae'n rhannol o ganlyniad i adroddiad Tŷ'r Arglwyddi y cyfeiriodd ato y bydd cyrff yn y DU yn cael eu rhestru ar flaen y Bil nawr, o ganlyniad i ddiwygiadau hwyr yn Nhŷ'r Arglwyddi. Bydd cyrff yng Nghymru yn cael eu rhestru o ganlyniad i reoliadau y bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru eu cyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a fydd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol fel y nododd Dr Lloyd.
Ceir cyfres o fesurau diogelu, rwy’n credu, yn y Bil hwn nawr sy’n caniatáu i ni fod yn eithaf hyderus o ran diystyru rhai o'r peryglon posibl a amlinellwyd gan Dai Lloyd. Rwy'n credu y bydd y gofyniad i gael codau ymarfer newydd, penodol sy'n bodoli ochr yn ochr â'r Bil, y bydd gan Weinidogion Cymru y gallu uniongyrchol i gael eu hymgynghori arnynt ac i wneud sylwadau arnynt, ac yn y blaen, yn rhoi cyfle i ni ymdrin â nifer o'r pwyntiau a wnaed ganddo, ac i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hadlewyrchu yn y mesurau diogelu angenrheidiol sydd eu hangen mewn cysylltiad â’r posibiliadau newydd ar gyfer rhannu data y mae’r Bil yn eu caniatáu. Mae'n bwysig iawn bod yn eglur bod y Bil yn caniatáu i ddata gael eu rhannu o dan amgylchiadau penodedig rhwng cyrff penodedig ac at ddibenion penodedig, a phan nad yw’r dibenion hynny’n berthnasol mwyach—os nad yw rhywun mewn tlodi tanwydd, er enghraifft, yn yr enghraifft a roddodd Dai Lloyd—yna ni fydd posibiliadau rhannu data’r Bil hwn yn berthnasol mwyach chwaith.
Rwy'n falch o gadarnhau eto ein bod ni wedi ystyried yn annibynnol y safbwynt a arddelir gan Lywodraeth y DU o ran cydymffurfiad hawliau dynol erthygl 8. Rydym ni’n credu bod y Bil yn cydymffurfio. Bydd yn rhaid i unrhyw reoliadau y byddwn ni’n eu cyflwyno o dan y weithdrefn gadarnhaol gael cadarnhad ar wahân gan Weinidogion Cymru eu bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Felly, bydd cyfleoedd pellach i'r Cynulliad hwn graffu ar y mater hwnnw, hefyd.
Gan droi at bwyntiau Mark Reckless, na, nid wyf yn tybio bod yr holl densiynau rhwng safbwyntiau datganoledig a safbwyntiau heb eu datganoli ar rannu data wedi eu datrys, hyd yn oed o ganlyniad i’r berthynas waith agos yr ydym ni wedi ei chael o ran y Bil hwn, ond yr hyn yr hyn yr ydym ni wedi ei sicrhau yw cyfresi newydd o hawliau ymgynghori yn y ddau gyfeiriad, sydd bellach yn rhan o’r Bil, sy'n golygu, os oes materion lle y mae angen ystyried tensiynau ymhellach, bydd gennym gyfrwng ar gyfer gwneud hynny.
Mae'r mater o ddyled yn un diddorol, ac rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i’w godi. Rwy’n credu bod dwy wahanol ffordd y gallai'r Bil fod yn berthnasol yn hynny o beth. Bydd pobl y bydd y Bil yn gallu eu helpu trwy allu cyfuno dyled, casglu dyledion ynghyd, a’i gwneud hi’n haws i fynd ar drywydd dyled pan fo’n ddyledus i amrywiaeth o wahanol gyrff sector cyhoeddus. Ceir gwaith yr wyf yn awyddus i’w wneud gyda llywodraeth leol yng Nghymru i ystyried y ffordd y mae’r rhan honno o'r sector cyhoeddus yn mynd ar drywydd y dyledion sy'n ddyledus iddynt. Ond gwyddom hefyd bod pobl nad ydynt mewn dyled oherwydd amgylchiadau cyfyng yn syml, lle ceir biliau dilys sy'n ddyledus i awdurdodau cyhoeddus, a lle ceir hawl ar ran y cyhoedd i wneud yn siŵr bod y biliau hynny yn cael eu talu, gan fod talu’r biliau hynny yn talu am y gwasanaethau yr ydym ni oll yn dibynnu arnynt, a bydd y Bil yn rhoi rhywfaint o allu ychwanegol i awdurdodau cyhoeddus wneud hynny’n effeithiol.
Rwy’n cytuno’n llwyr bod y data sydd ar gael at ddibenion ymchwil o ganlyniad i'r Bil, y dylid rhannu canlyniadau hynny gyda’r cyhoedd. Mae’r ffordd y mae'r gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn Abertawe yn gweithredu, rwy’n credu, yn enghraifft ragorol iawn, yr ydym yn ei hyrwyddo mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, o ran y ffordd yr ydym ni’n gwneud yn siŵr bod y data sy'n cael eu cyfrannu gan ddinasyddion Cymru yn cael eu defnyddio at ddibenion pwysig, ac yn cael ei wneud mewn ffordd agored a hygyrch.
Yn olaf, i gytuno hefyd fod parc data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd yn datblygu clwstwr lle'r ydym yn denu pobl i Gymru, ac yn datblygu gweithlu ein hunain ar gyfer y dyfodol. Dywedodd arweinydd yn y maes, yr Athro Bean, yn ddiweddar fod Casnewydd yn dod i'r amlwg fel man pwysig i’r proffesiwn data ar draws y Deyrnas Unedig, ac mewn ffordd fach, bydd y pwerau a fydd yn dod i Gymru os caiff y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ei gymeradwyo yn ein helpu i ddatblygu'r diwydiant newydd pwysig hwnnw i Gymru.