Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 15 Mawrth 2017.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fy nealltwriaeth i, fodd bynnag, yw bod y Papur Gwyn cyfredol wedi diddymu’r rhwymedigaeth i gynghorwyr gyhoeddi adroddiad blynyddol i gynyddu tryloywder ac i ganiatáu i bleidleiswyr weld beth y mae eu cynrychiolwyr wedi bod yn ei wneud. Roeddwn yn meddwl tybed a allech, efallai, esbonio rhywfaint mwy ar hynny ac egluro pam fod y gofyniad hwnnw wedi’i wanhau ac os yw, pam y teimlwch nad yw sicrhau bod yr holl gynghorwyr yn adrodd yn rheolaidd a chyson ar y gwaith a wnânt ar ran y rhai y maent yn eu cynrychioli yn system addas i lywodraeth agored ac atebol.