<p>Tryloywder o ran Llywodraeth Leol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 15 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:12, 15 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n cytuno bod tryloywder yn bwysig iawn mewn perthynas â chyflog. Dyna pam, ym mis Rhagfyr 2015, y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Tryloywder Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru’, cyfres o egwyddorion a chanllawiau. Dyna pam y gofynnwyd i Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ddatblygu canllawiau ar hyn, ac fe’u cyhoeddwyd ganddynt ym mis Rhagfyr y llynedd. Trafodwyd y canllawiau hynny yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, a gadeiriwyd gennyf yr wythnos diwethaf, gyda chyflogwyr ac undebau llafur. Rydym yn parhau’n ymrwymedig i gymryd camau pellach, lle y bo angen, er mwyn sicrhau bod tryloywder yn y ffordd y caiff cyflog ei adrodd yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.