Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Mawrth 2017.
Wel, Gadeirydd, pryd bynnag y bydd gan rywun gynllun penodol y maent wedi ymrwymo iddo, rwy’n deall y byddent yn hoffi ei weld mewn grant arbennig am ei fod yn fwy gweladwy yn y ffordd honno. Mae hynny bob amser yn creu tipyn o wrthdaro â’r egwyddor ei bod hi’n well gan awdurdodau lleol o bob plaid weld yr arian yn mynd i mewn i’r grant cynnal refeniw er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd i bobl ar lawr gwlad. Yn yr achos hwn, penderfynais y byddai’n mynd i mewn i’r grant cynnal refeniw, ond y byddai’n cael ei fonitro’n ofalus iawn. Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hynny’n glir. Rydym eisiau arloesedd. Rydym eisiau caniatáu i awdurdodau lleol ddatblygu’r cynlluniau peilot sy’n gweithio orau yn eu hardaloedd eu hunain, gyda’r nod—. Fel y dywedodd Sian Gwenllian, y nod a rennir ganddynt oll yw gwneud mwy i ganiatáu i’n strydoedd mawr fod yn lleoedd ffyniannus lle y gall busnesau weithredu’n llwyddiannus a lle y gall pobl leol deimlo eu bod yn cael rhywbeth sy’n fywiog ac yn werth chweil yn eu bywydau hefyd.