Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 15 Mawrth 2017.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Hoffwn ddweud ein bod, ar hyn o bryd, yn edrych yn unig ar ddau bwynt gwefru yn Nhŷ Hywel, ond yn amlwg, fe welwn pa mor llwyddiannus fydd hyn, ac mae gennym ddiddordeb mewn edrych ar hyn yn gadarnhaol a lleihau ôl troed allyriadau carbon. Rydym yn awyddus i fwrw ymlaen â’r syniad hwn, felly gyda chynnydd, byddwn yn rhagweld y byddem yn edrych ar safleoedd eraill.