Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. Yn 40 oed eleni, mae Biosffer Dyfi wedi bod yn un o chwech o warchodfeydd biosffer cydnabyddedig UNESCO yn y Deyrnas Unedig. Ailenwyd ac ymestynnwyd y biosffer yn 2001, ac erbyn hyn mae’n ymestyn o Aberystwyth i Lanbryn-mair ac o Borth i Ddinas Mawddwy. Mae ganddo weledigaeth bendant a chlir, sef: bydd Biosffer Dyfi yn cael ei gydnabod a’i barchu yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol am amrywiaeth ei harddwch naturiol, ei dreftadaeth a’i fywyd gwyllt, ac am ymdrechion ei bobl i wneud cyfraniad cadarnhaol i fyd mwy cynaliadwy. Bydd yn gymuned hyderus, iach, gofalgar a dwyieithog, gyda chefnogaeth economi gref wedi’i gwreiddio yn lleol.
I gwrdd â’r weledigaeth heriol a chyffrous, mae ganddo naw prif amcan. Un ohonynt yw sicrhau y bydd yn gymuned ddwyieithog, a fydd yn cael ei chydnabod a’i pharchu am ei threftadaeth. Felly, mae statws y biosffer yn ymwneud â llawer mwy na’r amgylchedd—mae’n cwmpasu sefyllfa’r iaith Gymraeg o gwmpas aber Afon Dyfi.
Hoffwn ddiolch a chymeradwyo Biosffer Dyfi am ei waith, nid yn unig fel platfform i ddatblygiadau cynaliadwy, ond am ei bendantrwydd i ganoli’r iaith Gymraeg fel rhan annatod o’i waith. Rwy’n annog, felly, Lywodraeth Cymru i barchu a hyrwyddo’r biosffer fel enghraifft o gynaliadwyedd yng Nghymru sydd â statws rhyngwladol, ac i gydweithio ag UNESCO i sicrhau ei ddyfodol.