4. 4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Aelod ynghylch Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 15 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:07, 15 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n anghytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet ar hynny. Cafwyd cyflwyniadau di-ri. Dyna pam y cawsom y Ddeddf amgylchedd hanesyddol wreiddiol a’r diwygiadau gan Blaid Cymru a’ch galluogodd i gael y gofrestr sydd gennych heddiw. Y ffaith amdani yw nad oes unrhyw ddiogelwch statudol i’n henwau lleoedd hanesyddol mewn unrhyw iaith—Saesneg, Eingl-Sacsoneg, ieithoedd Llychlyn, Lladin, hen Gymraeg, Cymraeg newydd, Norseg, Fflemeg, pa iaith bynnag a fynnwch. Mae smorgasbord cyfoethog ein hanes yn dirywio, ac rydym yn loetran yn segur, naill ai’n gwneud dim neu’n dweud yn chwithig, ‘Duw, gadewch i ni gael ychydig o ganllawiau, ie?’ [Chwerthin.] Na, nid yw’n iawn. Rydym yn sôn am hanes cenedl yma, balchder yn hanes y genedl honno, balchder sy’n haeddu cael ei ymgorffori yn y gyfraith. Nick.