Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 15 Mawrth 2017.
Ydw. Caniatawyd eithriad i ffordd osgoi Llandeilo fel na fyddai angen i’r comisiwn annibynnol ei hystyried, gan wybod yn iawn, ar sail elw o £1.16 ar y buddsoddiad, na fyddai’n ddigon da. Rwyf wedi fy syfrdanu gan ei sinigiaeth wrth iddo fynnu bod yn rhaid i gynlluniau eraill basio prawf tebyg. Rydym oll wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’n rhaid i bawb ohonom gyflawni ein hymrwymiad a’i adlewyrchu yn y penderfyniadau a wnawn.