5. 5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 15 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:06, 15 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y pwyllgor—mor gydsyniol a chydweithredol ag erioed. Rwy’n meddwl mai’r pwynt allweddol oedd rôl comisiwn seilwaith cenedlaethol os yw, yn y llythyr cylch gwaith, yn cael arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru fod angen inni gydraddoli’r lefelau o fuddsoddiad seilwaith ar draws y rhanbarthau ac yn bendant—i adleisio’r pwynt a wnaeth Hefin David—o fewn y dinas-ranbarthau presennol hefyd fel nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl.