Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 15 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n meddwl ein bod wedi cael enghraifft dda iawn yn awr o redeg ar ôl y penawdau a pheidio â chynhyrchu unrhyw sylwedd o gwbl. Rwy’n sylweddoli bod y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu’r Blaid Lafur. Yr hyn nad wyf yn ei gael yw unrhyw synnwyr o’r hyn y byddent yn ei wneud pe baent mewn Llywodraeth yng Nghymru, neu unrhyw syniadau blaengar neu gadarnhaol sydd ganddynt ar gyfer ein heconomi neu ein cymdeithas.
Nawr, ni fydd yn syndod o gwbl i’r Ceidwadwyr, na’r Blaid Lafur o ran hynny, fod Plaid Cymru yn dweud wrth y ddwy blaid, ‘Deled pla i gartrefi’r ddwy ohonoch!’ Nid ydym yn sefyll yma i gefnogi’r naill neu’r llall o’r pleidiau unoliaethol sydd eisiau ein clymu at undeb a fu mor aflwyddiannus yn diogelu buddiannau pobl Cymru neu’n adeiladu economi Cymru. Nid ydym yn derbyn y naratif hwnnw o gwbl, ac yn y lle hwn fel yr wrthblaid etholedig, byddwn bob amser yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y dydd i gyflawni’r hyn sydd orau ar gyfer ein cymunedau, yr hyn sydd orau i Gymru—a byddwn yn gweithio gydag unrhyw blaid yn hynny o beth.
Rwy’n credu fy mod yn deall pam y cyflwynodd y Ceidwadwyr y cynnig braidd yn ddinod ond syml hwn heddiw. Gwelsant ein bod wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol yr wythnos diwethaf, a gwnaeth hynny iddynt feddwl, ‘A, dyna bleidlais yn erbyn y cyflenwi, gadewch i ni gyflwyno cynnig ar yr hyder, a gadewch i ni weld a allwn gael rhyw fath o rywbeth seneddol ar waith yma’. Ond nid ydym yn dilyn confensiynau San Steffan yn y lle hwn. Yn sicr, nid yw Plaid Cymru yn gwneud hynny. Nid ydym mewn perthynas â’r Blaid Lafur sy’n berthynas o hyder a chyflenwi, neu’n berthynas glymblaid. Rydym yn rhan o ateb i Gymru a gytunwyd rhyngom a’r Blaid Lafur ar yr adeg yr etholwyd y Prif Weinidog gennym. Oherwydd, fel y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gorfod derbyn—ac mae’n rhaid i ni ei dderbyn hefyd—y Blaid Lafur a enillodd yr etholiad; ac felly roedd eu henwebiad ar gyfer Prif Weinidog yn haeddu ein sylw a’n cefnogaeth bosibl, neu oddefgarwch o leiaf, yn y Siambr hon. O ganlyniad i hynny, cawsom gyfres o gytundebau, yn arwain at y gyllideb, sydd, o’n rhan ni, wedi cyflawni llawer o’r pethau y credwn eu bod yn bwysig i Gymru. Rydym wedi gweld ffrwyth hynny, boed yn gronfa arloesol ar gyfer cyffuriau, boed yn adnoddau ychwanegol ar gyfer datblygu economaidd, neu’r hyn a wnaethom ar ardrethi busnes. Rydym wedi gweld hynny’n cael ei gyflawni yn y broses dros y flwyddyn ddiwethaf.
Felly, rydym yn hyderus wrth fynd yn ôl at y bobl a bleidleisiodd dros Blaid Cymru ynglŷn â’r hyn a wnaethom, ar ôl cael ein hethol i’r lle hwn. Yr hyn nad oes gennym, fodd bynnag, yw unrhyw hyder yn Llywodraeth Geidwadol y DU i gyflawni yn yr un modd. Rydym newydd weld hynny yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda’r gyllideb a’r tro pedol mawr a wnaed heddiw. Y ffaith amdani yw hyn: bellach, ar ôl bron i 10 mlynedd o wleidyddiaeth caledi, twf cymedrol yn unig a gofnodwyd yn yr economi, fawr o dwf o gwbl mewn cynhyrchiant ar draws y DU, ac mae Cymru hyd yn oed ymhellach ar ôl na hynny o ran cynhyrchiant. Erbyn 2022, bydd pobl 18 y cant yn waeth eu byd nag yr oeddent yn 2008. Nawr, rwy’n gwybod bod hynny’n syth ar ôl dirwasgiad, ond y ffaith amdani yw nad yw gwleidyddiaeth caledi, fel y bu’r Ceidwadwyr yn gweithio drwyddi, wedi cyflawni ar ran pobl Cymru.