Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 15 Mawrth 2017.
I’r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod, adeiladwyd dinas Tyddewi ar safle’r fynachlog a sefydlwyd gan Dewi Sant yn y chweched ganrif, ac ef, wrth gwrs, yw nawddsant Cymru. Felly, nid ased diwylliannol i Sir Benfro yn unig yw Tyddewi, ond ased i orllewin Cymru ac wrth gwrs i Gymru gyfran. Felly, er mai Tyddewi yw dinas leiaf Prydain o ran daearyddiaeth, rwy’n credu ei bod yn un o’r dinasoedd mwyaf o ran gwerth diwylliannol.
Bu farw Dewi Sant ei hun yn y flwyddyn 589 ac yn ôl y chwedl, dywedir bod y fynachlog wedi llenwi ag angylion wrth i Grist dderbyn ei enaid. Wrth gwrs, hyd heddiw, mae dinas Tyddewi’n dal i fod â lle arbennig yn y gymuned Gristnogol. Mae’r eglwys gadeiriol wedi bod yn safle pererindod ac addoliad ers dros 800 mlynedd ac mae’n parhau i ddenu miloedd o ymwelwyr y flwyddyn.
Yn wir, roeddwn yn falch iawn o fynychu gorseddiad esgob benywaidd cyntaf Cymru yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ddiweddar, gydag Aelodau eraill, sydd ond yn dangos bod yr eglwys gadeiriol yn parhau i fod â rôl bwysig mewn Cristnogaeth Gymreig heddiw.
Fodd bynnag, mae Tyddewi’n adnabyddus am fwy na’i phwysigrwydd i dreftadaeth Gristnogol. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i annog yr holl Aelodau yn y Siambr hon i wneud ymdrech i ymweld â’r ardal leol a gweld drosoch eich hun yn union beth sydd gan Dyddewi i’w gynnig, gan fod yna rywbeth at ddant pawb.
Mae’r ddinas yn gartref i rai o draethau mwyaf anhygoel y byd. A gaf fi atgoffa’r Aelodau fod Tyddewi ym mharc cenedlaethol Arfordir Penfro, sef yr unig barc cenedlaethol yn y DU sydd ar yr arfordir? Mae Tyddewi hefyd wedi chwarae ei rhan yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i chadw’n fyw drwy gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2002, gan ddangos pwysigrwydd y ddinas i ddiwylliant Cymru unwaith eto.
Mae’r canllawiau ar gyfer proses geisiadau Dinas Diwylliant y DU yn nodi eu bod yn chwilio am geisiadau sy’n dangos rhagoriaeth ac arloesedd diwylliannol ac artistig a chredaf fod Tyddewi’n gwneud hynny’n helaeth.
Rwyf wedi egluro ychydig am arwyddocâd diwylliannol Tyddewi ond mae’n bwysig atgoffa’r Aelodau fod gan Dyddewi gymuned artistig lewyrchus gyda chelf yn cael ei arddangos yn gyson ar amrywiaeth o lwyfannau, megis ar gynfas, gwydr a cherflunwaith. Mae Tyddewi’n gartref i oriel a chanolfan ymwelwyr Oriel y Parc, sydd ag oriel o’r radd flaenaf ar gyfer arddangos gweithiau celf o gasgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru a stiwdio artist preswyl, gan ddangos unwaith eto ymrwymiad yr ardal i gelf.
Fy nealltwriaeth i yw mai uchelgais cyffredinol cais Tyddewi yw gwella lles pawb a gyffyrddir gan ymwneud Tyddewi â’r rhaglen Dinas Diwylliant. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae gan gelf a diwylliant rym i sicrhau budd positif sylweddol i les pobl. Dangosodd adroddiad Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd yn 2013 fod mynediad at, a chyfranogiad mewn gweithgaredd creadigol a’r celfyddydau yn ei holl ffurfiau yn rhan bwysig o iechyd a lles cyffredinol cymdeithas a’r unigolion o’i mewn.
Mae ‘Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru 2015’ Cyngor Celfyddydau Cymru yn dangos bod hanner yr holl oedolion sydd ag anabledd yn cael eu hysbrydoli gan weithgarwch artistig ac yn mwynhau cymryd rhan, a bod tri o bob pump o oedolion yng Nghymru yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod y celfyddydau a gweithgarwch diwylliannol yn helpu i gyfoethogi ansawdd bywyd.
Felly, os yw’r Aelodau’n dysgu unrhyw beth yn y ddadl y prynhawn yma, boed i hynny gynnwys gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd Tyddewi i hunaniaeth ddiwylliannol ac artistig Cymru a’r effaith y gallai cais fel hwn ei gael ar les pobl. Byddai cais i weld Tyddewi’n dod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021 yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o gyfalaf diwylliannol ac artistig yr ardal, ac os mai cais Tyddewi fydd yr unig gais o Gymru yn y gystadleuaeth, rwy’n falch fod y Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd yn cefnogi’r cais.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn glir mewn ymateb i gwestiwn a ofynnais rai wythnosau’n ôl y byddai’n cyfarfod â threfnwyr unrhyw geisiadau o Gymru yn yr wythnosau nesaf. Felly, wrth ymateb i’r ddadl hon, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â ble y mae arni gyda’r trafodaethau hynny. Ar lefel leol, deallaf fod trafodaethau gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a phartneriaid ar y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Benfro wedi bod yn gefnogol iawn, ac rwy’n croesawu hynny. Mae’n gwbl hanfodol fod cymaint o randdeiliaid â phosibl yn dod ynghyd i gefnogi’r cais hwn, am mai drwy gydweithio’n unig y bydd gan Dyddewi obaith o ennill y gystadleuaeth hon.
Mae’n rhaid i’r cais ddangos gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer yr hyn y bydd Tyddewi yn ei gyflawni yn 2021 ac ar ôl hynny, ac felly byddai’r cais yn cael ei gryfhau’n sylweddol drwy gefnogaeth a thystiolaeth gan bartneriaid fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru. Rwy’n cytuno ag arweinydd Cyngor Sir Penfro, Jamie Adams, pan ddywed ‘Rwy’n credu bod gennym rywbeth gwahanol iawn yn Nhyddewi; nid yw’n ymwneud â chynigion mawr a dim arall, ond â’r effaith mewn perthynas â’r ddinas ei hun’. Mae’r gefnogaeth gan Gyngor Sir Penfro i’w groesawu’n fawr, oherwydd os yw’r cais yn llwyddiannus, yna bydd gan y cyngor rôl allweddol i’w chwarae yn sicrhau bod modd i’r seilwaith twristiaeth a thrafnidiaeth lleol ymdopi â’r ymwelwyr ychwanegol â’r ardal. Yn wir, mae’r canllawiau ar gyfer y broses ymgeisio nid yn unig yn gofyn am dystiolaeth o gryfderau diwylliannol ac artistig yr ardal, ond hefyd am amcangyfrif o’r effeithiau cymdeithasol ac economaidd tebygol ar gyfer yr ardal pe bai’r cais yn llwyddiannus. Rwy’n falch fod cabinet Cyngor Sir Penfro yn yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi cytuno i ddarparu gwarant cyfalaf o £5 miliwn i gefnogi cais cam 1 y ddinas.
Wrth gwrs, os yw Tyddewi’n ddigon ffodus mewn gwirionedd i ennill y gystadleuaeth, yna bydd y manteision i’r ardal i’w teimlo am flynyddoedd i ddod. Byddai rhaglen Dinas Diwylliant y DU yn rhoi mynediad i Dyddewi at gyllid ac adnoddau allweddol a fyddai’n gwneud mwy na helpu i adfywio’r ardal leol yn unig, ond byddai’n arddangos y gorau o ddiwylliant lleol Tyddewi i weddill y byd. Byddai hefyd yn adeiladu ar enw da twristiaeth gref Sir Benfro, gan y byddai gwaith marchnata a hyrwyddo ychwanegol ar gyfer Tyddewi yn sicr o arwain at ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal. Rydym yn gwybod bod effaith lawn Dinas Diwylliant y DU ar Londonderry eto i’w gwerthuso’n llawn, ond mae ymchwil cychwynnol gan Fwrdd Croeso Gogledd Iwerddon yn dangos ei fod wedi sicrhau effaith gadarnhaol sylweddol, gyda chydnabyddiaeth fod y budd i’w deimlo y tu hwnt i Londonderry yn unig. Yn ôl eu hadroddiad, roedd 87 y cant o fusnesau twristiaeth yng ngogledd-orllewin Iwerddon yn teimlo effaith gadarnhaol ar refeniw twristiaeth, a chymeradwyodd y diwydiant effaith etifeddol Dinas Diwylliant y DU ar dwf twristiaeth yn y dyfodol hefyd. Dyma’n union y math o effaith yr ydym am ei weld yn Nhyddewi ac ar draws Sir Benfro a gorllewin Cymru.
Mae Sir Benfro eisoes wedi meithrin enw da am ddarparu profiad twristiaeth o’r radd flaenaf, a gwyddom fod yr ardal yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru. Cafodd Sir Benfro ei henwi unwaith yn gyrchfan arfordirol ail orau’r byd yn ôl y cylchgrawn ‘National Geographic’, ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi a hybu’r mathau hyn o ardaloedd. Byddai cais llwyddiannus i Dyddewi allu dod yn Ddinas Diwylliant y DU yn arwain yn naturiol at fwy o bobl yn gwario arian yn ardal Tyddewi ac yn rhoi hwb i’w groesawu i’r economi leol. Felly, byddai cefnogaeth i gais Tyddewi i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021 yn arwain at gefnogi targed Llywodraeth Cymru i gynyddu enillion twristiaeth yng Nghymru 10 y cant neu fwy erbyn 2020.
Mae’r ymgysylltiad hwn yn tanlinellu’r canlyniad mwyaf pwysig y bydd gwneud cais am y gystadleuaeth hon yn ei sicrhau—gweithio mewn partneriaeth. Pa un a fydd cais Tyddewi’n mynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth genedlaethol ai peidio, bydd y cydweithio rhwng partneriaid ledled gorllewin Cymru, a thu hwnt gobeithio, ynddo’i hun yn cael effaith gadarnhaol. Ni all dod â phartneriaid at ei gilydd o fewn ac ar draws gwahanol sectorau ac adrannau Llywodraeth i ailfeddwl sut rydym yn hyrwyddo ein hunain fod yn beth drwg i’r ardal. Rwy’n gobeithio y bydd gwneud cais am Ddinas Diwylliant y DU hefyd yn arwain at ailfywiogi’r modd yr edrychwn ar ddiwylliant yn ein cymunedau. Wrth gwrs, mae sylfeini cais llwyddiannus eisoes yno, ond byddai cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gais gan Dyddewi yn ennyn cefnogaeth genedlaethol fwy eang ledled Cymru ac yn gwneud y cais yn gystadleuydd o bwys. Ond rwy’n sylweddoli bod yna geisiadau eraill sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Byddai’n ymestyn y lefel o weithio mewn partneriaeth er budd gorllewin Cymru ymhellach, ac yn gwneud datganiad fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiwylliant Cymru ar draws y wlad.
Felly, i gloi, mae’r economi ddiwylliannol a chreadigol ar hyn o bryd yn ardal Tyddewi ac yn wir, ar draws Sir Benfro, yn cynnig sylfaen ddigonol ar gyfer adeiladu cais cryf i ddod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU.
Mae Tyddewi’n ymfalchïo mewn llu o asedau diwylliannol, o bensaernïaeth a hanes Cristnogol i gelf a cherddoriaeth gyfoes, ac mae’n gartref i’n nawddsant ein hunain. Bydd cais llwyddiannus i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn atgyfnerthu enw da diwylliannol cynyddol Tyddewi ac yn creu etifeddiaeth barhaol am flynyddoedd i ddod. Felly rwy’n mawr obeithio y bydd Tyddewi’n cael y gefnogaeth y mae’n ei haeddu fel ei bod yn dod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU yn 2021.