Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 21 Mawrth 2017.
Mae tîm traws-Lywodraeth yn bwrw ymlaen â’r rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref i gyfochri amrywiaeth o brosiectau masnachol yn well gydag ymyraethau eraill i gefnogi creu cyflogaeth ystyrlon mewn cymunedau sydd â lefelau uchel o ddiweithdra.