Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 21 Mawrth 2017.
Wel, nid wyf yn ymwybodol o'r sefyllfa yng Nghaerffili fel y mae’n ei disgrifio. Byddaf yn ysgrifennu ato ynglŷn â hynny, gan ei fod yn benodol i gyngor Caerffili yn hytrach nag i Lywodraeth Cymru. Mae angen i ni osgoi sefyllfa lle’r ydym ni’n adeiladu llawer iawn o wahanol unedau ffatri ar hap gan ein bod ni’n gwybod bod llawer ohonynt yn aros yn wag, neu roedden nhw’n aros yn wag yn y 1990au. Yr hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud yw nodi adeiladau presennol sy'n briodol i fusnesau sydd eu heisiau, ac edrych lle y gellir adeiladu unedau lle’r ydym ni’n gwybod y bydd galw. Ac mae hynny'n rhywbeth sy’n sicr yn rhan o'n strategaeth economaidd.