2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:18, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Andrew R.T. Davies yn codi pwynt pwysig. Wrth gwrs, mae'r ffaith bod gennym bellach ysbyty plant yma yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, yn datblygu triniaethau arloesol a llwybrau gofal—a chredaf mai’r hyn y mae angen i ni edrych arno yn ofalus iawn nawr yw, o ran rhewmatoleg bediatrig, pa lwybr gofal sydd ar gael, ac, wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed y pwynt a wnaed heddiw.