5. 6. Datganiad: Menter Ymchwil Busnesau Bach

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:26, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd yng Nghymru wrth i ni ddatblygu ein menter ymchwil busnes bach. Yn 2013, roedd ein strategaeth 'Arloesi Cymru', ymysg pethau eraill, yn argymell defnyddio rhagor o ddychymyg wrth arloesi gyda chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus a chaffael Llywodraeth. Yn yr un flwyddyn, mewn partneriaeth ag InnovateUK, rhoddodd Llywodraeth Cymru raglen catalydd gwerth £3 miliwn ar waith i ysgogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru a busnesau Cymru i gymryd rhan yng nghystadlaethau’r Fenter Ymchwil Busnesau Bach. Cafodd model y DU ei seilio ar raglen hirsefydlog yn yr Unol Daleithiau, sef ymchwil arloesi busnes bach. Drwy weithio gyda busnesau bach a chanolig eu maint, mae hon yn gwario tua $2.5 biliwn yn flynyddol, wrth ddatblygu datrysiadau ar gyfer anghenion y llywodraeth ffederal, a chan ddefnyddio gwariant caffael, nid grantiau gan lywodraeth. Yn y DU, mae contractau’r Fenter Ymchwil Busnesau Bach gyda chwmnïau wedi cynyddu o fod yn llai na £15 miliwn yn 2010 i fod dros £50 miliwn eleni. Datblygwyd ystod eang o ddefnyddiau a datrysiadau arloesol, a chydnabuwyd rhinweddau mecanwaith y Fenter Ymchwil Busnesau Bach yn eang dros lywodraeth a diwydiant. Yng Nghymru, mae’r Fenter Ymchwil Busnesau Bach yn helpu i drawsffurfio problemau ymarferol yn y sector cyhoeddus, yn ogystal â helpu wrth ddatrys rhai o heriau mawr cymdeithas, a ddaeth i’r amlwg yn 'Arloesi Cymru'.

Mae pob cystadleuaeth gan y Fenter Ymchwil Busnesau Bach yn canolbwyntio ar adran yn y gwasanaeth sector cyhoeddus lle nad oes datrysiadau i’w cael hyd yn hyn neu lle y byddai modd i wella datrysiadau rhannol. Mae rownd gyntaf ein cystadlaethau wedi ennyn diddordeb gwirioneddol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Roedd yr heriau’n cynnwys problem cyngor Caerdydd gydag ôl-ffitio datrysiadau ynni effeithlon o fewn ei adeiladau traddodiadol a hanesyddol, ymgyrch Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i wella iechyd a lles ein pobl drwy ddefnydd gwell o ddata iechyd cyfunol, materion Adnoddau Naturiol Cymru yn ymwneud â rheoli symudiadau da byw er mwyn lleihau’r effaith sydd gan amaethyddiaeth ar ansawdd dŵr, ac uchelgais Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella gofal cleifion drwy helpu nyrsys a gofalwyr i gwtogi ar eu dyletswyddau gweinyddol, a rhoi mwy o sylw i gleifion o’r herwydd. Y nod ar gyfer yr her honno oedd bod nyrsys yn treulio 10 y cant yn fwy o amser gyda chleifion, a meddyliwch chi pa mor werthfawr fyddai’r 10 y cant o amser hwnnw yng ngolwg y cleifion hynny a’u perthnasau, ac o ran effeithlonrwydd yr ysbyty. Ar ôl dwy flynedd o gydweithrediad ymarferol rhwng nyrsys yn yr ysbyty a dechrau busnes bach ym Mangor, mae prototeip meddalwedd wedi ei ddatblygu yn ddatrysiad a allasai gynyddu amser y nyrsys gyda’r cleifion nid gan y 10 y cant a addawyd ond, fe allai fod, hyd at 23 y cant. Mae llwyddiant yr heriau cychwynnol hyn yn dangos i ni sut y gall y sector cyhoeddus fod yn gwsmer arweiniol effeithiol a deallus gan helpu i hybu cwmnïau arloesol Cymru a chreu swyddi, twf a lles i Gymru.

Rwyf yn awr yn dymuno gweld mwy o fusnesau bach a chanolig yn cymryd rhan ym mhroses gaffael y sector cyhoeddus, er mwyn defnyddio cyllid ymchwil a datblygu i fagu datrysiadau newydd i broblemau caled. Ac rwyf yn dymuno i’r heriau fod yn berthnasol i’r gymdeithas, a’u bod o fantais wirioneddol i bobl Cymru. Rydym wedi dysgu oddi wrth y cynlluniau peilot fod parodrwydd cynyddol yng Nghymru i arloesi dros y sector cyhoeddus. Felly, ar y cyd ag InnovateUK, rydym wedi estyn dwy alwad arall. Wrth i’r rhaglen fynd o nerth i nerth, bydd lleihad yng nghyfradd yr ymyrraeth gyhoeddus â’r rhain wrth i'r manteision i bawb dan sylw gael eu nodi a'u deall. Er nad ydyn nhw wedi eu cyfyngu i fusnesau bach, gwelwyd cynrychiolaeth gref yn y cystadlaethau gan ein busnesau bach a chanolig. Bydd lefelau’r ariannu yn amrywio, ond bydd prosiectau yn para am ddwy flynedd neu ragor fel arfer, gyda chyllid cychwynnol o hyd at £100,000 ar gyfer pob cwmni llwyddiannus. Bydd y goreuon yn gallu cystadlu wedyn am gontractau pellach o hyd at £1 miliwn a mwy i ddatblygu’r wedd fasnachol ar eu syniadau.

Yn unol â’r rhaglen, rydym wedi cefnogi Adnoddau Naturiol Cymru er mwyn cael gwelliant yn adferiad rhywogaethau cynhenid ac ansawdd pridd, a fydd yn gwrthsefyll yn erbyn effeithiau rhywogaethau estron ymosodol fel clymog Japan. Rydym wedi cefnogi gwasanaeth anafiadau i'r ymennydd gogledd Cymru wrth annog cleifion i fod yn annibynnol gyda’u tasgau coginio, i leddfu'r wasgfa sydd ar ofal cymdeithasol a gwella ansawdd bywydau pobl. Rydym yn helpu Heddlu De Cymru gyda datblygiad arloesol offer dadansoddol rhagfynegol, a fydd yn gwneud defnydd amgen o'u hadnoddau ac yn rhoi gwasanaeth gwell i gymunedau’r De.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio’r rhaglen yn llwyddiannus. Cynhaliodd ein hadran drafnidiaeth gystadleuaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach i ddatblygu datrysiadau ar gyfer lleihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd. Dewiswyd dau brosiect ac mae'r un cyntaf wedi ei gwblhau nawr. Mae Armourgel Cyf wedi datblygu leinin i helmed beic modur a fydd yn lleddfu’r cywasgiad sydd ar ben beiciwr mewn gwrthdrawiad. Gall hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng anaf difrifol i’r ymennydd a mân anaf iddo. Mae'r ail brosiect wedi datblygu system rybuddio ar gyffordd, a fydd yn cael ei dreialu cyn bo hir ar ffyrdd Cymru.  Bydd y prosiect hwn yn gallu rhoi’r system ar brawf yn ystod prif dymor beicio modur. Erbyn mis Medi, bydd y cwmni wedi cwblhau’r profion ar y system ym mhob tywydd a bydd yn adrodd am ei phosibiliadau masnachol. Mae gan y ddau brosiect hyn y potensial i achub bywydau beicwyr modur, nid ar ffyrdd Cymru yn unig, ond dros y byd.

Mae’r rhaglen hon nid yn unig yn hyrwyddo newid yn niwylliant y sector cyhoeddus; ond cafodd ei harddangos gan Innovate UK yn enghraifft o arfer gorau. Mae rhanbarthau datganoledig eraill yn dysgu o esiampl Cymru, ac mae hefyd yn ennyn diddordeb yn Iwerddon, Sweden ac Awstralia. Hyd yma, mae 29 o gontractau sector cyhoeddus ar gyfer ymchwil a datblygu wedi eu rhoi i fusnesau Cymru, sy’n werth dros £1.8 miliwn. Ac mae 66 contract i gyd, sy’n werth £4.9 miliwn, wedi eu rhoi gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae dros 300 o fentrau wedi derbyn cymorth, a thros £2 miliwn o arian cyfatebol wedi cael ei ddenu i Gymru o adrannau Innovate UK a Llywodraeth y DU. Cafwyd cydweithrediad ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, Adnoddau Naturiol Cymru, yr heddlu ac adrannau Llywodraethau Cymru a’r DU. Hyd yn hyn, mae tair adran yn y Llywodraeth ganolog wedi cyfrannu'n ariannol at heriau sydd wedi eu harwain gan Gymru.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Innovate UK wrth iddyn nhw geisio gwneud y mwyaf o effaith y Fenter Ymchwil Busnesau Bach. Fy mwriad ar hyn o bryd yw bod ein rhaglen Menter Ymchwil Busnesau Bach yn offeryn prif ffrwd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan hyrwyddo arloesi a hybu ein potensial technolegol. Gall y Fenter Ymchwil Busnesau Bach agor y drws i gyfleoedd enfawr i fusnesau Cymru a gall helpu wrth ddatrys rhai o'r heriau mawr y byddwn i gyd yn eu hwynebu yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu ei defnyddio. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cefnogi'r bwriad hwn. Diolch.