Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 21 Mawrth 2017.
Diolch. Dyna gryn dipyn o gwestiynau amrywiol a gwnaf fy ngorau i'w hateb. O ran TGCh a band eang, er enghraifft, un o'r pethau y bydd yr Aelod yn ei wybod yw ein bod yn edrych ar yr hyn yr ydym am ei wneud ar ddiwedd y prosiect cyfredol ac ar gyfer y ganran fechan sy'n weddill o’r boblogaeth a’r safleoedd yng Nghymru nad ydyn nhw wedi eu cynnwys. Ac mae hynny’n sicr yn un o'r pethau y byddwn yn debygol iawn o ystyried eu gwneud, hynny a gwthio datrysiadau arloesol mewn meysydd penodol. Pan gawn ni fap o'r holl safleoedd nad ydynt wedi eu cynnwys yn y contract cyfredol, a byddwn yn ei gael yn fuan iawn, yna, byddwn yn gallu ystyried sut y gallem drefnu cystadleuaeth o'r fath. Ond mae'n enghraifft ardderchog o rywbeth a allai fod yn werth ei godi yn hyn o beth. Fel y dywedais wrth Adam Price, mae ’na ddatrysiadau TGCh eraill ar sail data a allai gydorwedd yn hapus y tu mewn i’r fenter hon hefyd.
O ran yr hyn yr ydym wedi ei wneud hyd yn hyn, rydym wedi dyfarnu 44 contract ar gam cyfnod 1. Roedd pum contract bach arall a ddyfarnwyd gan ryw lun o ragflaenydd iddi, nad ydynt wedi'u cynnwys, ond mewn gwirionedd maen nhw’n rhan ohoni. Ac mae 22 ar gam cyfnod 2 hyd yn hyn. Enillwyd tri deg wyth y cant o hynny gan sefydliadau yng Nghymru a rhoddwyd 44 y cant o'r holl ddyfarniadau contract i sefydliadau yng Nghymru. Roedd gennym bump o fusnesau yng Nghymru oedd yn llwyddiannus mewn cystadlaethau Menter Ymchwil Busnesau Bach tu hwnt i Gymru, felly rydym wedi cefnogi ein busnesau i wneud ceisiadau y tu allan i Gymru. Roedd gennym bedwar corff cyhoeddus yn rhedeg mwy nag un her ar yr un pryd, ac nawr mae gennym ddau fusnes yng Nghymru sydd wedi ennill ein heriau, a fydd o bosibl yn mewnfuddsoddi. Oherwydd yr hyn yr ydym yn ei wneud, pan fyddwn yn cael rhywun sydd â diddordeb yn ateb un o'r heriau, yw eu cefnogi hefyd gyda’n rhaglenni cymorth busnes er mwyn eu perswadio i ddod i Gymru, i bob pwrpas, ac rydym yn defnyddio’r egwyddor honno i gyflawni ein hamcan. Felly, mae wedi bod yn llwyddiannus iawn ar lawer cyfrif.
Rydym yn awyddus iawn bod hyn yn dod yn ymarfer caffael safonol ac rydym yn annog busnesau bach a chanolig i wneud cais. Nid yw’n gyfyngedig i fusnesau bach a chanolig—gall unrhyw un wneud cais—ond mewn gwirionedd, rydym wedi gweld cryn dipyn o ddiddordeb gan fusnesau bach a chanolig ac rwy'n hapus iawn i edrych ar unrhyw ffordd o annog rhagor eto o fusnesau bach a chanolig i wneud cais yn y dyfodol. Y syniad yn amlwg yw gwobrwyo'r syniad da, ac yna helpu'r cwmni gyda’r ochr fasnachol, felly nid oes unrhyw faintioli yn angenrheidiol i ddechrau ar y broses honno.