1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0529(FM)
Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi’r mesurau yr ydym ni’n eu cymryd i sicrhau bod y de-ddwyrain wedi ei gysylltu trwy system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, fforddiadwy, ddibynadwy, fodern a chwbl integredig.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r penderfyniad ar ddyfarnu masnachfraint newydd Cymru a'r gororau yn arbennig o bwysig i drafnidiaeth gyhoeddus yn y de-ddwyrain ac, yn wir, i fetro de Cymru—mater yr wyf i wedi ei godi yn y Siambr hon gyda chi nifer o weithiau. Soniasoch ar ddiwedd eich ateb am bwysigrwydd integreiddio. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y broses o ddyfarnu'r fasnachfraint, o gofio bod map y metro yn cynnwys llwybrau bysiau a threnau? Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod annibyniaeth y ddau lwybr hynny yn cael ei sicrhau yn y fasnachfraint newydd, fel ein bod yn gweld y ddarpariaeth o docynnau integredig, ac fel bod y fasnachfraint newydd yn gweithredu mewn cytgord â gwasanaethau bysiau lleol a'r gwasanaethau trên?
Mae'r fasnachfraint ei hun yn mynd yn dda, ond ni fyddwn yn disgwyl, wrth gwrs, i’r fasnachfraint rheilffordd ymdrin â'r mater o wasanaethau bysiau. Ond, wrth gwrs, ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd y sefydliad hwn yn cael rheolaeth o wasanaethau bysiau, ac mae hynny’n rhoi’r cyfle i ni fel Llywodraeth, a'r Cynulliad fel sefydliad, i integreiddio gwasanaethau bysiau a rheilffordd o gofio’r ffaith y bydd rheolaeth yn yr un lle.
Bu pum mlynedd ers cyhoeddi’r adroddiad ‘A Metro for Wales’ Capital City Region’, sy'n gwneud yr achos dros newid sylweddol i’n system drafnidiaeth gyhoeddus. Fesul cilomedr, mae rheilffordd yn costio tua’r un faint â'r un pellter o draffordd, ac eto mae'n cludo wyth i 20 gwaith yn fwy o bobl. Felly, rwy'n awyddus i ddeall pa waith y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud i ddefnyddio'r metro fel ffordd o fynd i'r afael â newid moddol ac ymdrin â'r tagfeydd sydd gennym ni ar hyn o bryd ar yr M4 i'r dwyrain o Gaerdydd.
Mae'r M4 i'r dwyrain o Gaerdydd yn cael ei heffeithio gan nifer o ffactorau. Bydd y metro yn cael rhywfaint o effaith, ond nid effaith mor fawr ag ar gyfer y cymunedau hynny sydd i'r gorllewin o Gaerdydd. I ddechrau, wrth gwrs, yr hyn y bydd y metro yn ei wneud fydd uwchraddio a gwella'r rheilffyrdd presennol, ac yna, wrth gwrs, ceisio ehangu trwy reilffyrdd ysgafn i gymunedau newydd. Ond mae camau nesaf y metro sy'n cynnwys rheilffordd ysgafn rai blynyddoedd i ffwrdd, o gofio’r ffaith ein bod ni’n gwybod y bydd y gwaith cychwynnol yn canolbwyntio ar y rheilffyrdd trwm sydd eisoes yn bodoli. Ond ceir cyfleoedd sylweddol ar gyfer newid moddol drwy'r metro yn y blynyddoedd i ddod.
Bore dydd Iau diwethaf, rhoddodd arweinyddion rhagorol cynghorau RhCT a Phen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorwyr Andrew Morgan a Huw David, dystiolaeth ar fetro de Cymru i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Roeddent yn dadlau bod angen i'r metro gysylltu ar draws y Cymoedd gogleddol ac nid cryfhau cysylltiadau i Gaerdydd ac oddi yno’n unig. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno ac ymrwymo i sicrhau bod hyn yn digwydd?
Wel, y peth cyntaf i'w bwysleisio yw nad system drafnidiaeth ar gyfer Caerdydd fwyaf yw'r metro. Mae'r ffaith y bydd Trafnidiaeth Cymru wedi ei leoli ym Mhontypridd yn arwydd o'r ymrwymiad yr ydym ni’n ei wneud i gymunedau'r Cymoedd, ond bydd cysylltiadau traws-gwm yn bwysig. Rydym ni’n deall hynny. Byddant yn cael eu darparu yn bennaf, yn sicr yn y cyfnodau cychwynnol, gan fysiau. Rydym ni’n gwybod bod llawer o bobl sy’n dymuno cymudo ar draws Flaenau'r Cymoedd, a chymudo o un cwm i'r llall. Mae’r rheilffyrdd a oedd yn cysylltu’r ardaloedd hynny ar un adeg wedi hen ddiflannu. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod angen i ni ystyried sut y gallwn ni wella gwasanaethau bws er mwyn darparu’r cysylltiadau sydd eu hangen ar bobl.
Prif Weinidog, yn Llandudno ddydd Sadwrn yng nghynhadledd Llafur Cymru, cyhoeddwyd tri mesur arwyddocaol gennych a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd Wi-Fi am ddim ar bob trên ar fasnachfraint Cymru a'r gororau erbyn mis Medi eleni, bydd Wi-Fi am ddim yn cael ei gyflwyno mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru, gan ddechrau gyda 50 o'r gorsafoedd prysuraf yng Nghymru dros y chwe mis nesaf, a chynllun arbrofol blwyddyn o hyd o deithio am ddim ar benwythnosau ar ein gwasanaeth TrawsCymru pellter hir. Prif Weinidog, onid yw hyn yn dystiolaeth bellach fod Llywodraeth Lafur Cymru ar ochr cymudwyr, a pha gamau eraill a fyddai’n gallu gwella trafnidiaeth gyhoeddus i’m hetholwyr yn Islwyn?
A gaf i ddiolch i'r Aelod dros Islwyn am fy atgoffa o'r hyn a ddywedais dros y penwythnos? Ac, ydy, mae'n arwydd o'r ymrwymiad yr ydym ni’n ei wneud i gymudwyr—y ffaith ein bod ni’n uwchraddio'r metro, y ffaith ein bod ni wedi ymrwymo i fetro’r gogledd-ddwyrain, y ffaith ein bod ni’n ystyried uwchraddio trenau pan ddaw'r fasnachfraint i ni, y ffaith y byddwn yn ceisio, pan fydd y pwerau yn dod i ni y flwyddyn nesaf, uwchraddio ein system fysiau. Ac, wrth gwrs, byddwn, fel y dywedasom dros y penwythnos, yn gwneud pethau a fydd yn ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfforddus i bobl deithio ar y rheilffyrdd ac ar fysiau yn y dyfodol.