<p>Trafnidiaeth Gyhoeddus</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:32, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r M4 i'r dwyrain o Gaerdydd yn cael ei heffeithio gan nifer o ffactorau. Bydd y metro yn cael rhywfaint o effaith, ond nid effaith mor fawr ag ar gyfer y cymunedau hynny sydd i'r gorllewin o Gaerdydd. I ddechrau, wrth gwrs, yr hyn y bydd y metro yn ei wneud fydd uwchraddio a gwella'r rheilffyrdd presennol, ac yna, wrth gwrs, ceisio ehangu trwy reilffyrdd ysgafn i gymunedau newydd. Ond mae camau nesaf y metro sy'n cynnwys rheilffordd ysgafn rai blynyddoedd i ffwrdd, o gofio’r ffaith ein bod ni’n gwybod y bydd y gwaith cychwynnol yn canolbwyntio ar y rheilffyrdd trwm sydd eisoes yn bodoli. Ond ceir cyfleoedd sylweddol ar gyfer newid moddol drwy'r metro yn y blynyddoedd i ddod.