Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 28 Mawrth 2017.
Wel, y peth cyntaf i'w bwysleisio yw nad system drafnidiaeth ar gyfer Caerdydd fwyaf yw'r metro. Mae'r ffaith y bydd Trafnidiaeth Cymru wedi ei leoli ym Mhontypridd yn arwydd o'r ymrwymiad yr ydym ni’n ei wneud i gymunedau'r Cymoedd, ond bydd cysylltiadau traws-gwm yn bwysig. Rydym ni’n deall hynny. Byddant yn cael eu darparu yn bennaf, yn sicr yn y cyfnodau cychwynnol, gan fysiau. Rydym ni’n gwybod bod llawer o bobl sy’n dymuno cymudo ar draws Flaenau'r Cymoedd, a chymudo o un cwm i'r llall. Mae’r rheilffyrdd a oedd yn cysylltu’r ardaloedd hynny ar un adeg wedi hen ddiflannu. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod angen i ni ystyried sut y gallwn ni wella gwasanaethau bws er mwyn darparu’r cysylltiadau sydd eu hangen ar bobl.