Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 28 Mawrth 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod dros Islwyn am fy atgoffa o'r hyn a ddywedais dros y penwythnos? Ac, ydy, mae'n arwydd o'r ymrwymiad yr ydym ni’n ei wneud i gymudwyr—y ffaith ein bod ni’n uwchraddio'r metro, y ffaith ein bod ni wedi ymrwymo i fetro’r gogledd-ddwyrain, y ffaith ein bod ni’n ystyried uwchraddio trenau pan ddaw'r fasnachfraint i ni, y ffaith y byddwn yn ceisio, pan fydd y pwerau yn dod i ni y flwyddyn nesaf, uwchraddio ein system fysiau. Ac, wrth gwrs, byddwn, fel y dywedasom dros y penwythnos, yn gwneud pethau a fydd yn ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfforddus i bobl deithio ar y rheilffyrdd ac ar fysiau yn y dyfodol.