Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch am yr ateb. Ac a wnewch chi, felly, gadarnhau y byddwch chi’n mynd ar ôl pob ceiniog os nad yw telerau’r grant wedi eu cyflawni’n llwyr? Ac, a fyddwch chi’n ailystyried y ffordd rydych chi’n cefnogi’r wasg leol? Mae hon yn ymgyrch gan yr NUJ, fel rydych chi’n gwybod, ynglŷn â Local News Matters. Oni fyddai’n fwy priodol i Lywodraeth Cymru sefydlu cronfa annibynnol ar gyfer newyddion annibynnol, y mae modd i bob cwmni fidio i mewn iddi hi, ac i gefnogi newyddiaduriaeth yn Gymraeg a Saesneg yng Nghymru?