Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 28 Mawrth 2017.
Wel, rydym ni’n ymwybodol o 14 o ddiswyddiadau a gynlluniwyd. Gallaf ddweud, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, ein bod ni wedi darparu £245,808 i Newsquest yn 2015 tuag at greu 50 o swyddi a diogelu 15 o swyddi ym Maesglas. Roedd y dyfarniad hwnnw’n amodol ar i’r swyddi fod ar waith tan fis Mai 2020. Mae'r gweithrediad wedi rhagori ar y targed creu swyddi a gynlluniwyd hwnnw hyd yn hyn, ond mae'n bwysig bod telerau'r grant hwnnw’n cael eu bodloni tan fis Mai 2020. Os nad ydynt, byddwn yn adennill yr arian.