Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 28 Mawrth 2017.
Wel, fel y dywedais, mae amodau'r grant wedi cael eu bodloni hyd yn hyn, ond mae'n rhaid bodloni’r amodau tan fis Mai 2020. Os nad ydynt yn cael eu bodloni, yna byddwn yn ceisio adennill yr arian. Cyn belled ag y mae swyddogion yn y cwestiwn, maen nhw wedi bod mewn trafodaethau ers cryn amser gyda Newsquest. Fel sy'n arferol yn y sefyllfaoedd hyn, rydym ni’n edrych i weld pa gymorth y gallwn ni ei gynnig. Ond, gadewch i mi ei wneud yn gwbl eglur, os nad yw amodau'r grant yn cael eu bodloni, yna byddwn yn cymryd camau i’w adennill.