Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 28 Mawrth 2017.
Wel, yn gyntaf oll, gallaf ddweud bod swyddogion wedi rhoi gwybodaeth i'r cwmni am gael mynediad at wasanaethau ReAct i weithwyr a ddiswyddwyd, ac am wasanaethau priodol Gyrfa Cymru. Mae Busnes Cymru ar gael i edrych ar ddarparu’r math o gymorth ariannol y mae’r Aelod dros Ogledd Caerdydd wedi ei grybwyll. Ond nid oes unrhyw amheuaeth bod llawer ohonom yn ofni y byddwn yn gweld gostyngiad graddol i sylw i newyddion lleol a rhaglenni newyddion cenedlaethol ledled Cymru gyfan, a dyna pam mae’r fforwm cyfryngau annibynnol wedi cael ei sefydlu. Un o amcanion y fforwm hwnnw fydd ystyried ffyrdd o wneud yn siŵr bod ein pobl yn cael eu hysbysu’n briodol ac nad ydynt yn cael eu camarwain trwy ddarllen papurau sy'n dod o rywle arall.