Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd. Yfory, bydd Llywodraeth y DU yn sbarduno erthygl 50, gan ddechrau’r broses lle bydd y Deyrnas Unedig, neu rai rhannau o'r DU o leiaf, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydych chi wedi dweud o'r blaen eich bod yn disgwyl y bydd ymgynghori â chi cyn gwneud yr hysbysiad erthygl 50. A allwch chi ddweud wrthym pa ymgynghori sydd wedi digwydd a, hefyd, yr hyn yr ydych chi’n disgwyl ei weld yn y llythyr erthygl 50?