Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 28 Mawrth 2017.
Pedwar allan o saith yw hi. Yn gyntaf oll, nid yw amseroedd aros yn cynyddu. Pedwar o saith yw hi, ond gofynnodd y cwestiwn, 'Beth fydd yn digwydd os nad ydynt yn cadw o fewn y gyllideb?' Rydym ni’n edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Os nad ydynt yn cadw o fewn y gyllideb heb niweidio gwasanaethau, yna bydd yn rhaid i ni edrych yn ofalus ar y ffordd y mae’r byrddau hynny yn cael eu llywodraethu, ac ni fyddwn yn osgoi hynny yn yr un modd ag na wnaethom osgoi ymdrin â Betsi Cadwaladr pan gododd y sefyllfa honno.