<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:50, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae byrddau iechyd eraill yn ymdopi. Mae Powys yn fwrdd iechyd, ac mae'n prynu’r rhan fwyaf o'i wasanaethau i mewn. Yn wir, gellid dadlau ei bod yn fwy anodd i Bowys, gan fod cyn lleied o wasanaethau yn cael eu darparu ym Mhowys oherwydd ei natur wledig, ac eto mae Powys yn ymdopi. Unwaith eto, y neges yr ydym ni wedi ei rhoi i'r byrddau iechyd sy'n dweud wrthym na fyddant yn gallu bod o fewn eu cyllideb yw: 'Mae'n rhaid i chi reoli hyn. Mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn torri mewn meysydd nad ydynt yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd. Ni ddylech edrych ar wasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd o ran torri, ac rydych chi’n cadw o ferwn eich cyllideb.’ Dyna beth ddylai byrddau iechyd ei wneud. Eu cyfrifoldeb nhw yw hyn, yn y pen draw—dyna pam mae gennym ni fyrddau iechyd. A bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn atebol am eu gweithredoedd ymhen ychydig fisoedd pan fyddwn ni’n edrych eto ar y sefyllfa ariannol.