Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 28 Mawrth 2017.
Mae fy nghyfaill yr Aelod dros Dorfaen wedi bod yn angerddol yn ei heiriolaeth dros yr achos hwn. Mae hi wedi gofyn i mi edrych a allai arian fod ar gael. Byddaf yn edrych ar hynny iddi, gan ei bod wedi codi'r mater gyda mi yn y Siambr. Fel y dywedais, gwnaed cyhoeddiadau hyd yn hyn—nid yw’r holl swm canlyniadol wedi ei ddyrannu. Mae'n rhaid i ni gymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, yr hyn a fydd yn digwydd yn y flwyddyn ariannol y tu hwnt i’r un yma a’r un y tu hwnt i honno. Ond byddaf yn edrych ar hynny iddi.