Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 28 Mawrth 2017.
Gallaf ddweud bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar sut y gellir gwella gweithio ar y cyd rhwng addysg a CAMHS. Nid cyfrifoldeb un Gweinidog yn unig yw hwn; rwy’n deall hynny. Gwyddom, wrth weithio ar sail traws-bortffolio, y gallwn, wrth gwrs, gael yr effaith fwyaf a'r canlyniadau gorau. Rydym ni’n cydnabod bod iechyd ac addysg yn sicr yn gysylltiedig, ac felly mae swyddogion wedi eu cyfarwyddo hefyd i weithio gyda'i gilydd i ystyried gwahanol ddulliau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant ein plant a'n pobl ifanc.