<p>Gwydnwch Emosiynol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei ystyried yn weithredol, ac yn rhywbeth a drafodwyd gennym yn helaeth cyn yr etholiad y llynedd. Nid oes unrhyw eiriolwr sy’n fwy brwd dros ymwybyddiaeth ofalgar nag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi. Rwy'n cyfaddef, pan gododd y pwnc gyda mi yn y lle cyntaf nid oeddwn yn hollol siŵr beth oedd hynny. Rwyf wedi cael fy addysgu a’m hysbysu’n llawn erbyn hyn, gallaf eich sicrhau.

Ond, ydy, rwy’n meddwl ei bod hi’n hynod bwysig ein bod ni’n ystyried dulliau newydd o helpu pobl ifanc i ymdopi â phwysau nad oedd yn bodoli pan oeddwn i yr oedran hwnnw. Mae pwysau cyfryngau cymdeithasol—pan oeddech chi’n mynd adref, dyna ni; nid oeddech chi’n cael eich dilyn o gwmpas y lle ar-lein gyda'r bwlio y gall hynny arwain ato weithiau a'r pwysau i gydymffurfio y gall hynny arwain ato weithiau. Felly, mae'n rhaid defnyddio dulliau newydd i ymdrin â phroblemau newydd.